ATHRAW WEDI EI LADD.
Yr wythnos ddiweddaf daeth hysbysrwydd fod Corporal Lewys Jones Williams, o'r 10th Battalion R.W.F. wedi ei ladd yn Ffrainc ar Awst 22ain. Mab ydoedd yr ymadawedig i Mr a Mrs Richard Williams, Fourcrosses House, Penrhos, ger Pwllheli, ac yn 25 mlwydd oed. Yr oedd yn gwasanaethu fel is-athraw yn ysgol Tregarth cyn toriad allan y rhyfel, ac nid oedd ganddo ond un pwnc i'w orchfygu cyn sicrhau ei radd o B.A. Yr oedd yn fachgen deallgar a hoffus iawn.Sicrhaodd nifer o wobrwyon mewn arlunio barddoniaeth, a chyfieithu tra y bu yn efrydu yng Ngholeg y Brifysgol Bangor. Enillodd y brif wobr ar wneyd cywydd i'r "Nos" un flynedd, ac efe enillodd y wobr am dynu darlun a'i bin ag ingc o'r brifysgol newydd yn Mangor. Enillodd amryw o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn arlunio. Yr oedd tân gwladgarwch yn llosgi yn fflam yn ei ysbryd. Gwnaeth yngais i ymrestru ddwywaith neu dair cyn cael ei dderbyn, ond gan nad oedd yn gryf ei iechyd gwrthodwyd ef. Ond yr oedd mor awyddus am wasanaethu ei wlad fel yr aeth i Wrexham i ymuno ac yno derbyniwyd ef i'r fyddin. Yr oedd yr awdurdodau milwrol wedi pwyso arno o dro i dro i dderbyn comisiwn fel swyddog yn y fyddin. ond gwrthododd bob tro gan ddewis aros yn filwr cyffredin hyd nes y sicrhai brofiad milwrol digonol.
Derbyniodd ei rieni lythyr oddiwrth gaplan y fyddin yn eu hysbbysu fod eu mab wedi marw fel gwron a'i fod wedi ei gladdu mewn mynwent Eglwysig gan ei gyfeillion y dydd dilynol.
Mae y cydymdeimlad a'r teulu yn fawr iawn, yn enwedig gan fod eu mab arall, Private David Larsing Williams, o'r 1-6th R.W.F. yn gorwedd mewn ysbyty yn Nantyclyn Hospital, Morganwg, yn dioddef dan y dysentery a gafodd tra yn ymladd yn Suvla Bay.
Yr mae yntau yn fachgen ieuanc deallgar iawn, ac yr oedd yn gwasanaethu fel is-athraw yn Ysgol y Cyngor yn Crewe cyn toriad allan y rhyfel.
Yr Herald Gymraeg 11/01/1916
Milwr o Leyn wedi ei Ladd.
Dydd lau diweddaf derbyniodd Mr. a Mrs. Richard Williams, Penygroes, Penrhos, ger Pwllheli, y newydd trist fod eu mhab, Corporal Lewis Jones Williams, wedi ei ladd yn Ffrainc.Yr oedd yn 25ain oed, a pherthynai i'r 10fed Fataliwn o'r Gatrawd Frenhinol Gymreig. Cyn y rhyfel yr oedd yn feistr cynorthwyol yn ysgol Tregarth, Bangor, a buasai wedi enill ei radd yn fuan. Enillodd amryw wobrau am arlunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cynygiwyd comisiwn iddo amryw droion, ond gwrthododd yr anrhydedd hyd nes y cai fwy o brofiad milwrol.
Y mae ei frawd ieuengaf hefyd Private Larsing Williams - yr hwn oedd yn athraw yn Ysgol y Cyngor, Crewe, yn gorwedd yn wael yn yr ysbytty dan y dysentery.
Perthynai ef i'r 6ed Fataliwn o'r Gatrawd Frenhinol Gymreig o'r Tiriogaethwyr, a bu yn y Dardanelles, lle y cymerwyd ef yn wael.