NEWYDD PRUDD.

Brydnawn Iau derbyniodd Mr. a Mrs. Hugh Williams, Salem Place, Pwllheli, y newydd prudd fod eu mab hynaf (Private J. O. Williams) wedi marw o'r malaria fever yn yr Aifft.

Perthynai Mr Williams i'r Royal Engineers, ac yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn beiriannydd trydanol.

Cydymdeimlir yn fawr รข Mr. Williams hwn sydd yn hysbys fel guard ar reilffordd y Cambrian, a'r teulu oll yn eu dwfn alar. Nid oedd Private Williams ond 23 mlwydd oed, ac yr oedd yn gymeriad a fawr hoffid gan bawb.

Yr Herald Gymraeg 09/09/1919


Newydd Trist.

Cafodd Mr H. Williams, guard ar Reilffordd y Cambrian, newydd fod ei fab hynaf wedi marw yn Syria yn 23 mlwydd oed, sef y Sapper J. Osborne Williams.

Ar y 26ain o Awst derbyniodd ei dad a'i fam bellebr ei fod yn ddifrifol wael o'r malaria, a bu farw ar y 29ain.

Cyn ymuno yr oedd Williams yn telegraph linesman ar Reilffordd y Cambrian a'r Barnstaple.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu trallod. Marw yn yr Ysbyty.

Y Dinesydd Cymreig 17/09/1919