WEDI CWYMPO.

Mae priod Private John Williams, 1 Upper Terrace, wedi derbyn llythyr yn rhoi hysbysrwydd ei fod wedi ei ladd yn Mesopotamia.

Yr oedd Private Williams yn gymeriad tawel a diorchest ryfeddol, a'i gwmniaeth yn nodedig o ddyddorol.

Duw fyddo'n nodded i'w wraig a'i blant bach yn nyfnder eu poen a'u hiraeth am dano.

Yr Udgorn 11/04/1917


WEDI CWYMPO.

Mae Mrs Williams, Upper Terrace, yn destyn cydymdeimad cyffredinol yn y dref.

Derbyniodd hi y newydd prudd fod ei phriod, Private John Williams wedi colli ei fywyd ym Mesopotamia, gan ei gadael yn weddw gyda phump o blant.

Yr Herald Gymraeg 17/04/1917