WEDI EU LLADD.
Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd newyddion trist i'r dref, drwy hysbysrwydd swyddogol, fod Private Ellis Pugh Williams, Abererch Road (mab ieuengaf Mr William Pugh Williams, Sand Street), wedi cwympo ar faes y gwaed yn Ffrainc, a'i gladdu yno. Mae y brofedigaeth hon yn ddiau yn enyn cydymdeimlad llwyraf y dref a'i weddw drallodus a'i chwe' phlentyn amddifaid.Yn ddiweddarach caed hysbysrwydd arall fod Private Evan Dorkins (mab Mr a Mrs G Dorkins, Abererch Road), wedi marw mewn ysbyty yn Plymouth mewn canlyniad i'r clwyfo difrifol a fu arno ar ôl ysgarmes galed yn ddiweddar yn Ffrainc.
Yr oedd y milwyr dewr hyn yn bur hoff ac anwyl gan lu yn ein tref, ac yr oedd yn perthyn iddynt rhyw nodweddion atdynol i gymdeithas. Bu y ddau yn hoff yn eu dydd o gystadlu llawer ar ganu, a chyda llaw fe enillodd Private Ellis P. Williams mewn cystadleuaeth odidog mewn cyngherdd milwrol yn Ffrainc. Ddydd Sul yn Mhenmount a Sand Street, gwnaed coffa a chanwyd emyn ar eu hol, o'r lle yr oeddynt aelodau.
Dymunwn i'w teuluoedd bob lloches yn y dydd blin.
Yr Udgorn 02/08/1916
PWLLHELI SOLDIERS KILLED IN FRANCE.
News came on Thursday that Private E. P. Williams, 50 Abererch-rd, Pwllheli, of the R.W.F. had been killed in action in France.Lieut. Wheldon, the platoon commander, wrote to the widow, who is left with six little children, stating that he was killed during a successful attack on a certain wood and died as a soldier doing his duty. He was a good and capable soldier and would be greatly missed by his comrades. Officers and men conveyed their deep sympathy to the widow and children.
Deceased was thirty years of age.
News has also come that Pte. Griffith Jones, Rhydysgwystl, Pwllheli, a relative of deceased, aged twenty-four, was killed in action in the same battle.
Cambrian News 04/08/1916
MILWYR O BWLLHELI WEDI EU LLADD.
Foreu lau daeth llythyr i Mrs Williams, 30 Abererch Road. Pwllheli, yn ei hysbysu fod ei phriod, Private Ellis Pugh Williams. 14th Batt. R.W.F., wedi ei ladd yn yr ymosodiad mawr yn Ffrainc. Yr oedd yn 31 mlwydd oed. Ymunodd a'r fyddin yn fuan ar ôl i'r rhyfel dori allan, a bu yn ymladd yn Ffrainc am tua blwyddyn.Gedy briod a chwech o blant i alaru ar ei ôl. Mae'r hynaf o'r plant yn naw mlwydd a'r ieuengaf yn dri mis.
Hefyd, daeth newydd am farwolaeth Private Griffith Jones, Rhydygwystl, Fourcrosses, yr hwn sydd yn fab i chwaer Private Ellis Pugh Williams, ac yn hynaf o ddeuddeg o blant.
Nid oedd ef ond 24ain mlwydd oed ac yn fachgen dymunol.