WEDI EI LADD.
Derbyniodd Mrs Williams, Ynys, Abererch, hysbysrwydd prudd yr wythnos ddiweddaf fod ei mab, Private Hugh Roberts, wedi syrthio ar faes y gâd yn Ffrainc.Ymunodd yn wirfoddol a'r fyddin, a bu mewn ysgarmesoedd celyd ac anobeithiol iawn ar randiroedd y gyflafan yn Ffrainc ar amryw achlysuron, ond yn yr ymgyrch ofnadwy gymerodd le yno yn ddiweddar, syrthiodd yn aberth iddi yn ngwanwyn ei oes.
Dyn ieuanc siriol ac ymddiddanol ei natur ydoedd, a rhinweddau tlysion yn llanw ei rhodfeydd ei fywyd. Cerid ef yn fawr gan ei gyfeillion agosaf oherwydd symledd a naturioldeb ei fucheddiad, a bydd ei golli yn loes drom iddynt.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i fam ac a'r teulu oll yn nyfnder y brofedigaeth chwerw hon. Nawdd y nef fo drostynt, a thros feddrod unig y llanc yn mro yr estron.
Yr Udgorn 22/08/1917
ABERERCH WEDI MARW.
Y dydd o'r blaen derbyniodd Mrs Williams, Ynys, Abererch, hysbysrwydd fod ei mab, Private Hugh Roberts, wedi syrthio ar faes y gad yn Ffrainc.Yr oedd yn fachgen rhinweddol a hoff dros ben a chydymdeimlir yn fawr â Mrs Williams a'r teulu oll yn eu galar dwys.
Herald Gymraeg 04/09/1917
ABERERCH MARW FEL GWRON.
Derbyniodd Mr. a Mrs Williams, Ynys, Abererch, lythyr oddi wrth y Parch W. T. Havard, caplan, yn cydymdeimlo â hwy yn eu profedigaeth o golli eu mab, Private H. Roberts.Dywedodd ei fod wedi colli ei fywyd yn y frwydr fythgofiadwy a gymerodd le Gorphenaf 31, ger Ypres, pryd y bu i'r fyddin Gymreig enwogi eu hunain gymaint.
Dywedodd ei fod wedi marw fel gwron ar allor gwasanaeth ei wlad, ac ar ran y swyddogion a'r milwyr a edrychent ar ei mab anfonai y cydymdeimlad dwysaf.
Dymuna Mr a Mrs Williams ddiolch am y cydymdeimlad mawr a ddangoswyd tuag atynt yn eu dwfn alar.