LLWYDDIANT UN O FECHGYN Y DREF.
Da genym longyfarch Mr Arthur J. Williams, Cyfreithiwr, 19, Figtree Lane, Sheffield (gynt Bryngoleu, Salem Terrace), ar ei waith yn cael ei ddyrchafu yn Second Lieutenant yn y Third Welsh Regiment. Bu yn yr Officer's Training yn yr Iwerddon am bed war mis yn flaenorol.Eiddunwn bob llwyddiant iddo i gyflawni ei waith.
Yr Udgorn 04/04/1917
PWLLHELI SOLICITOR KILLED.
Lieut. ARTHUR JONES WILLIAMS, Son of Mrs. Williams, Bryngoleu, qualified solicitor, having served his articles with Mr. Robyns Owen and before enlisting was in partnership in Sheffield.He was thirty-two years of age.
His two brothers are also in the army.
Cambrian News 30/11/1917
WEDI CWYMPO.
Brydnawn Iau derbyniodd Mrs Williams, Bryngoleu, y newydd prudd fod ei mab ieuengaf, Lifftenant Arthur J. Williams, wedi syrthio yn aberth yn un o frwydrau arbenig a gymerodd le yn ddiweddar yng Ngwlad Canaan, ac efe ond 32 mlwydd oed.Cyn y rhyfel cadwai fusnes llwyddianus fel cyfreithiwr yn Sheffield. Cafodd ei ddwyn i fyny fel cyfreithiwr yn swyddfa Mr O. Robyns Owen, ac edrychid i fyny ato y pryd hwnw fel bachgen o natur dda a charedig, a chyflym ei feddwl i ddysgu ac i drysori gwybodaeth. Hoffid ef yn fawr ar gyfrif ei wenau teg a'i gyfarchiadau llon i bawb bob amser heb wahaniaeth gradd.
Trwy ei alluoedd diwylliedig cyrhaeddodd safle anrhydeddus yn myd y gyfraith, ac yn ddiweddar wedi iddo ymsefydlu busnes cyfreithiol ymbriododd. Ymunodd a'r fyddin o'i wirfodd, a phrawf hyn ei fod yn prisio gwir wladgarwch a rhyddid personol uwchlaw popeth. Nid hir y bu na'i dyrchafwyd yn swyddog, a chanmolid ef yn mysg y milwyr fel gwir foneddwr a chyfaill pur.
Trengodd yn ieuanc dros yr hyn a gredai oedd gyfiawn. Ymunodd ei ddau frawd hyn nag ef a'r fyddin yn Canada.
Cydymdeimlir yn fawr a'i fam weddw, ei briod ieuanc, a'i frodyr a'i chwiorydd yn eu galar mawr.