WEDI EI GLWYFO.

Derbyniodd, teulu Private Alfred Williams, Crown Boot Stores, y newydd trist ei fod wedi cael ei glwyfo yn ddifrifol yn ei ben yn Ffrainc.

Symudwyd ef ar unwaith i ysbyty yn Boulougne er mwyn rhoi triniaetb law-feddygol iddo, cyn ei symud i'r wlad hon, gan fod yr archoll yn beryglus uwchben ei lygad chwith.

Disgwyliwn yn hyderus y daw trwy'r oruchwyliaeth yn llwyddianus er cysur iddo'i hun ac i'w deulu gofidus.

Yr Udgorn 04/07/1917