AR GOLL.

Derbyniodd Mr a Mrs White, New Street, ddydd Gwener, newydd tra anisgwvliadwy oddiwrth yr awdurdodau milwrol fod eu mab, Private Albert White, yr hwn a gyhoeddid yn flaenorol ganddynt yn glwyfedig, yn awr goll.

Clwyfwyd ef mewn brwydr ffyrnig o flaen Gaza, a chyhoeddwyd yn mysg y clwyfedigion. Ond er siom a loes dirfawr i'w deulu daeth y newydd trist ei fod ar goll.

Mawr hyderir y tyr gwawr yn fuan ar y dirgelwch pruddaidd hwn, ac y caiff eu teulu pryderus waredigaeth lwyr o'u cyni.

Yr Udgorn 16/05/1917


NEWYDDION PRUDD.

Yr wythnos ddiweddaf daeth hysbysrwydd swyddogol fod i Mr a Mrs T. H. White, New Street, i'r perwyl fod eu mab, Private Albert White, wedi colli ei fywyd yn Gaza. Bachgen llawn o afiaeth bywyd ydoedd Albert, a phob amser yn llawen.

Bu'r teuluoedd hyn mewn pryder dwys iawn yn eu cylch am amser maith, ac yn awr estynir cydymdeimlad cyffredinel a hwy yn eu galar.

Yr Udgorn 14/08/1918