MILWR SYRTHIEDIG.
Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mrs Kate. Tilslay, Ala Road (gynt Ivy House), hysbysiad trist fod ei phriod, Gunner Daniel Tilsley, R.F.A wedi cwympo yn aberth ar faes y gwaed yn Ffrainc.Derbyniodd yr hysbysrwydd oddiwrth swyddog o'r adran a berthynai iddi o'r enw C. Hinds. Wele led-gyfieithiad o'r llythyr, yr hwn a ddengys pa mor ddewr y rhoes ei fywyd i lawr wrth gyflawni ei ddyledswydd olaf dro ei wlad.
"Syrthiodd ar Medi 20fed wrth symud ymlaen i feddianu llinellau newyddion o'r rhai a ddaliem. Loes drom i'r fintai oedd gweld y milwr dewr yn disgyn. Cafodd ei daro gan shel, ond hyfrydwch yw cofio na ddioddefodd ddim poen. Yr oedd yn filwr da ac yn ddyn rhagorol. Mae genyf hiraeth calon am dano felly yr un modd ei gymrodyr. Yr Arglwydd a'i cymerodd ymaith. Trengodd dros ei frenin a'i bobl gartref. Gellwch ymdawelu yn y ffaith ddarfod iddo huno fel dyn yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg."
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i weddw unig yn ei phoen a'i thristwch am dano .
Dymuna Mrs Tilsley gyflwyno ei diolch puraf i'r cyfryw bersonau ddangosodd gydym deimlad รข hi, ac a anfonasant lythyrau i'w chysuro yn ei phoen, yn wyneb y brofedigaeth chwerw o golli ei phriod mor ddisymwth.