WEDI CWYMPO.
Nos Lun derbyniodd Mr a Mrs Robert Thomas, Greenfield, South Beach, hysbysrwydd fod eu mab ieuengaf, Private Tommie Thomas, wedi syrthio yn aberth mewn ysgarmes ffyrnig yn Ffrainc, a'i fod wedi ei gladdu yno. Bu Private Thomas yn yr ymladdfeydd aresgrifiol y Dardanelles, a bu yn wael am fisoedd mewn ysbyty yn Lloegr mewn canlyniad i'r ymgyrch.Yr oedd yn fachgen hardd o bryd a gwedd, ac yn urddasol ei gerddediad. Bu yn dirion a hoff yn ei fywyd, ac yn anwyl a chu gan ei deulu a chydnabod. Bydd llawer cymrawd iddo yn dwys hiraethu am dano, ac mewn myfyr yn synfreuddwydio am ei fedd mewn estron wlad.
Dymunem i'w deulu trallodus bob cysgod yn nydd y dymbestl.
Yr Udgorn 11/04/1917
WEDI CWYMPO.
Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr a Mrs Robert Thomas, Greenfield, South Beach, hysbysrwydd fod eu mab, Pirivate Tommie Thomas wedi ei ladd yn yr ymladd yn Ffrainc.Bu Private Thomas trwy yr ymgyrch ofnadwy yn y Dardanelles, ac yn ddilynol bu mewn ysbyty yn Lloegr yn dioddef dan afiechyd.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu trallodedig.