GWEINYDDES IEUANC.
Drwg gennym gofnodi marwolaeth Staff Nurse Margaret Evans Thomas, nith i Mr a Mrs John F Summers. Birmingham House, yr hyn a gymerodd le mewn ysbyty yn Camberwell. Yr oedd Nurse Thomas wedi cymeryd ei chartref gyda Mr a Mrs Summers ac wedi ei dwyn i fyny yn nyrs. Rhyw flwyddyn yn ôl aeth i weini ar glwyfedigion rhyfel. Cafodd ymosodiad o'r flu a bu farw.Yr oedd eneth brydferth, ac yn feddianol ar gymeriad hardd a dilychwin. Nid oedd ond 28 mlwydd oed.
Ysgrifennodd awdurdodau y Swyddfa Ryfel a swyddogion yr ysbyty lle y gwasanaethai i ddatgan eu cydymdeimlad â Mrs. Summers a'r teulu gan roddi cymeriad uchei iawn iddi fel gweinvddes.
Dygwyd ei gweddillion i'w c'addu yn mynwent Denio, ddydd Gwener. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Williams a David Roberts, Abererch.
Y prif alarwyr oeddynt : - Mr a Mrs John Summers; Mr a Mrs Owen Williams, Walsall Stores; Mr a Mrs H. Summers, Birmingham; Mrs Roberts a Mr Robert Roberts, Shop, Tydweilioig; Mr. Hugh Evans, Ty Hir; Misses Maggie a Ellen Evans, Ty Hir; Mr William Evans, Ty Hir (Tydweiliog); Mrs. Roberts, Hirdre Uchaf; Mr. E. Jones Griffiths, Pwllheli; Mrs D. H. Williams, yn cynrychioli Cymdeithas y Groes Goch, Pwliheli; Lieut D. M. A., a chwmni o'r Gwirfoddolwyr lleol. Nurse Parry a Mrs. Hugh Griffiths oedd yn gofalu am y trefniadau.
Anfonwyd blodau hardd gan y rhai canlynol : -V.A.D.S., Int London General Hospital; Auntie Jones; Robert; Uncle and Cousin, Ty Hir; Mr a Mrs Owen Williams: Royal Free Hospital; Sisters at Camberwell and Wyan and Lewis; Patients and Ward Workers in 1st London General Hospital; Matron, Sisters and Nurses, 1st London General Hospital; Royal Free Hospital Nurses League; Private Jack Summers; Mr a Mrs J. Summers; Matron and the Nursing Staff of the Royal Free Hospital; Mr a Mrs Summers. Birmingham; Massage Staff, 1st London Hospital; Dosbarth Ysgol Sul yn Penmount.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu galar.
Yr Herald Gymraeg 19/11/1918
MARW YN IEUANC DROS EI GWLAD.
Ddydd Gwener, Tachwedd 8fed, yn y 1st London General Hospital, bu farw Sister M. E. Thomas, gynt o Birmingham House, a hi yn 28 mlwydd oed.Gwasanaethai yn yr ysbyty filwrol uchod, ac yr oedd wedi ymrestru gyda'r Territorial Force Nursing Service.
Derbyniwyd lluaws o lythyrau o brif ysbytai Llundain ac o faes y Rhyfel yn dwyn tystiolaeth uchel i'w chymeriad pur a dihymhongar, ynghyd a'i gallu arbenig i weini ar y milwyr clwyfedig. Yr oedd ei llaw dyner a'i gwen siriol bob amser yn dwyn meddyginiaeth a rhyddhad i'r rhai oedd dan ei gofal. Mor wyn oedd ei rhodiad ac mor ddilychwin ei moes fel yr anwylid hi gan bawb.
Hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i fynwent Denio Tachwedd 15fed (angladd angbyhoedd).
Gwasanaethwyd gan y Parchn. T. Williams, Elms, a David Roberts, Abererch. Prif alarwyr oeddynt :- Mr. a Mrs. Summers; Mrs. Roberts, Shop, Tydweiliog; Mr. Hugh Evans, Ty Hir, Tydweiliog; Mr. a Mrs H. Summers, Birmingham; Mr. a Mrs. Williams, Walsall Stores; Mr. R Roberts, Shop, Tydweiliog; Mr. W. Evans, Tydweiliog; Misses Evans, Ty Hir, Tydweiliog; Mrs. Roberts, Hirdre', Edeyrn. Hefyd Mr. E. J. Griffith, Bodriw (ei hen athraw yn Mhenmount); Corfflu o'r Gwirfoddolwyr leol dan ofal Lifft. D. H. Williams; Mrs. D. H. Williams, V.A. D.'s Commandant; Nurse Parry, Pwllheli.
Derbyniwyd wreaths gan y rhai canlynol :- Mr. a Mrs Summers; Mr a Mrs. R. Roberts, Tydweiliog; Mr Hugh a Misses Evans, Tydweiliog; Mr a Mrs. H. Summers, Birmingham; Mr. a Mrs. Williams, Walsall Stores; Private Jack Summers, Ffrainc; Dosbarth Ysgol Sul Penmont; Matron, Sisters, Nurses, Patients, Massage Staff, V. A. D. 's, 1st London Hospital; Matron, Sisters, Nurses League, Royal Free Hospital, London; Wian a Lewis o Ffrainc.
Yr oedd y trefniadau dan ofal Mr. Hugh Griffith, Abererch Road.