MILWR WEDI SYRTHIO.
Cydymdeimlir yn fawr â Mr a Mrs William Thomas, Fron Oleu, Carnarvon Road, a'r teulu yn eu profedigaeth o golli eu mab, Private John Pritchard Thomas, o'r R.W.F., ac efe ond 27 mlwydd oed.Daeth newydd swyddogol ei fod wedi syrthio yn aberth i'r rhyfel yn Ffrainc.
Gwasanaethai fel draper yn Llundain cyn ymuno a'r fyddin. Yr oedd yn gymeriad pur a hoffus, ac yn filwr dewr a ffyddlon.
Yr Herald Gymraeg 30/01/1917
WEDI CWYMPO.
Yr wythnos o'r blaen cafodd Mr a Mrs William Thomas, Fron Oleu, Carnarvon Road, hysbysrwydd swyddogol o Ffrainc yn dweyd fod eu mab, Private John Pritchard Thomas, wedi syrthio yn aberth ar faes y gad yno.Wele un eto o fechgyn y dref, pan oedd ei obeithion dyneraf a'i ddyfodol wynaf, yn rhoi cusan ffarwel iddynt yn mlagur einioes yn 27 mlwydd oed. Perthynai i fataliwn y Fyddin Gymreig, ac ymunodd â hi pan mewn gwasanaeth yn Llundain.
Y mae amryw yn y dref yn adwaen Private Thomas yn dda fel bachgen ifanc prydweddol a hoff, a chwery gwen a deigryn yn y wyneb wrth feddwl fod y galon ddidwyll yn huno mor bell mewn estron dir. Bu fyw, er byred ei oes, yn deilwng o foneddwr ieuanc, a bu farw yn ddewr dros hawliau a gredai oeddynt mor gysegredig a bywyd ei hunan. Ymddengys ei fod wedi ei glwyfo yn flaenorol cyn digwydd ei dynged blin, ac nad oedd prin bythefnos er pan y llwyr wellhaodd o'i glwyfau.
Dymunwn i'r teulu, yn eu mawr ofid calon am dano, bob nerth i ddal o dan bwysau y brofedigaeth.