Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr.
Derbyniodd y Parch. J Rhydderch y llythyr canlyuol oddiwrth Private Griffith John Thomas, o'r dref hon.Gwlad yr Addewid,
lonawr 9fed, 1918
Anwyl Mr Rhydderch,
Yr wyf yn cymeryd y pleser mawr o ysgrifenu ychydig linellau atoch i ddiolch i chwi am P.O., yr hwn a dderbyniais yn ddiogel. Daeth i law prydnawn Sul pan oeddwn mewn pentref sydd a hanes dyddorol iddo yn y Beibl-sef Bethel-y fan Lle y cafodd Jacob y breuddwyd rhyfedd hwnw. Yr ydym yn gweled golygfeydd rhyfedd yn y wlad hon. Mae'n debyg y buasai llawer iawn y ffordd yna yn falch o'u gweled.
Bum am dro dydd Nadolig drwy Jerusalem, a chawsom y fraint o weled y fan lle cafodd Iesu Grist ei dreial gerbron Pilat, a'r fan lle cafodd ei fflangellu. Buom hefyd ar hyd y ffordd lle y cariodd ei Groes i Galfaria. Mae y manau hyn wedi eu nodweddu yn Rhufeinig. Buom hefyd i Church of the Holy Sculpture, oddimewn i'r hon y mae bedd newydd Joseph. Buom oddimewn i'r Oruwch-ystafell ac yn Nghardd Gethsemane.
Yr oeddym yn gwersyllu tua'r gwyliau heb fod yn mhell o Fynydd yr Olewydd. Yr ydym wedi cael brwydrau caled iawn yn y fan yma, ac wedi colli tipyn o ddynion - ond dim yn agos i'r hyn gollodd y gelyn. Mae tri o fechgyn Pwllheli wedi eu lladd, a rhyw bedwar wedi eu clwyfo. Fe ddaethum i yn ddianaf drwy y cwbl diolch i'r Brenin Mawr am hyny. Nid oes genyf rhyw lawer mwy o newyddion i'w dweyd, heblaw fod y tywydd wedi troi, 'ma hi yn eira mawr yma heddyw ac yn oer dros ben -yr ydym bron a "starvio." Mae hyn yn sudden change i ni ar ôl y tywydd hafaidd yn yr Aifft.
Dywedwch with eglwys Penlan fy mod yn dra diolchgar iddynt am eu caredigrwydd, a dymunaf Flwyddyn Newydd Dda i chwi i gyd, gan obeithio y daw y flwyddyn hon a heddwch i bob gwlad.
Ydwyf,
GRIFFITH JOHN THOMAS.
Yr Udgorn 13/02/1918
NEWYDD PRUDD.
Boreu dydd Mawrth derbyniodd Mr a Mrs Griffith Thomas, Ty Melyn, y newydd galarus fod eu mab, Corporal Griffith John Thomas, wedi ei ladd tra yn ymladd dros ei wlad yn Ffrainc. Yr oedd Corporal Thomas yn fachgen ieuanc addawol iawn.Yr oedd yn gwasanaethu mewn ariandy yn y dref cyn y rhyfel ac yn fachgen a fawr hoffid gan bawb. Nid oedd ond 21 mlwydd oed.
Cydymdeimlir yn ddwfn a'i rieni a'r oll deulu yn eu dirfawr alar.