ANGLADD MILWR.
Y mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth gŵr ieuanc o filwr, sef William J. Richards, anwyl briod Mrs Annie Richards, Riverside, ac efe yn 38 mlwydd oed.Mab ydoedd i'r diweddar Capt. Richards, Llys Dafydd, Porthmadog. Ymunodd a'r fyddin yn wirfoddol yn y cychwyn, a bu mewn aml i frwydr anioddefol yn Ffrainc, a chafodd ei glwyfo yn dost ddwywaith yno.
Y waith gyntaf, gan nad oedd ei archollion yn fawr, cafodd wellhad digonol mewn ysbyty yno, ac aeth yn ôl i faes y gyflafan eilwaith.
Y tro hwn clwyfwyd ef mor ddifrifol nes y gorfu iddo ddychwel i ysbyty yn Llundain, ac yno am fisoedd bu yn dioeddef ac yn dihoeni oddiwrth doster ei glwyfau. Ffarweliodd a'r fuchedd hon nos Lun, a daethpwyd a'i gorph yma dydd lau diweddaf.
Yr oedd gan Mr Richards amryw gyfeillion hoff yn y dref, gan ei fod wedi bod yn gwasanaethu gyda'r diweddar Mr Baldwin Jones, Fferyllydd, Heol Fawr, flynyddoedd yn ôl. Cymeriad addfwyn a chymwynasgar ydoedd, a'i garedigrwydd yn ddihysbydd.
Dydd Gwener cafodd angladd milwrol, pryd y rhoed ei weddillion marwol i orffwys yn mynwent Abererch gan osgorddlu o'r Gwirfoddolwyr ac eraill. Yn y modd yma y talwyd y gymwynas olaf i'r milwr dewr aberthodd ei fywyd mor dawel dros bethau cysegredicaf ei wlad.
Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch J Rhydderch ac yn y fynwent gan y Parch. D. Jones, y Ficer.
Yr Arglwydd fyddo'n dirion wrth ei weddw ieuanc, a'i phedwar plentyn bach, yn eu hiraeth dwys am un mor anwyl.