MARW CYN-FILWR.
Boreu Gwener, wedi misoedd o gystudd, bu farw Mr. Ted Pugh, priod Mrs Kate Pugh, Lleyn Street, ac efe yn 32 mlwydd oed.Bu allan yn ymladd yn y brwydrau ofnadwy yn y Dardanelles. Diameu iddo golli ei iechyd trwy ymladd dros ei wlad. Yr oedd yn gymeriad hoff a gwrol, ac yn uchel ei barch yn mysg ei gydnabod.
Ddydd Mawrth cymerodd ei gladdedigaeth le, yr hon oedd filwrol, yn mynwent Denio. Blaenorid yr orymdaith gan gwmni o'r Gwirfoddolwyr lleol, o dan arweiniad Lifftenant Davenport a Sergt-Major Griffiths, yn cael eu dilyn gan amryw o filwyr lleoedd oeddynt gartref ar eu leave dros y gwyliau, o dan arweiniad Sergt. Inst. R. W. Williams
Gwasanaethid gan y Parchn. J. Edwards, B. A., y ficer, a W. Pierce Owen, B.A., y ciwrad. Cafodd gladdedigaeth luosog a pharchus.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i weddw ieuanc ac unig ac a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth chwerw.
Yr Udgorn 25/12/1918
ANGLADD MILWROL.
Dydd Mawrth, claddwyd y cyn-filwr Ted Pugh, Lleyn Street, yn Mynwent Denio, gydag anrhydedd milwrol.Blaenorid yr angladd gan y Gwirfoddolwyr lleol dan arweiniad Lieut Devonport a Sergt-Major W. Griffiths, a llu o filwyr lleol oeddynt adref ar ymweliad, dan arweiniad Sergt-Major R. W. Williams.
Gwasanaethwyd y Parchn. J. Edwards (Ficer), a W. Pierce Owen (curad).