WEDI EI GLWYFO.
Drwg genym ddeall fod Private William John Pritchard. mab Mrs Pritchard a'r diweddar Capt. Pritchard, Sabrina, wedi ei glwyfo yn Ffrainc.Perthyna Private Pritchard i'r Royal Welsh Fusiliers.
Cyn ymuno a'r fyddin yr oedd mewn swydd bwysig mewn ariandy yn Birmingham.
Dymunwn iddo wellhad buan.
Yr Udgorn 20/12/1916
CWYMPO AR FAES Y RHYFEL.
Mae genym yr wythnos hon eto y gorchwyl trist o hysbysu cwymp un o fechgyn mwyaf anwyl ac addawol Pwllheli, set Private William John Pritchard, mab ieuengaf Mrs Pritchard a'r diweddar Capt. Hugh Pritchard, Sabrina, ar faes y rhyfel yn Ffrainc, ac efe yn 33 mlwydd oed.Derbyniodd Mr Hugh Pritchard, Cyfreithiwr, Mount Pleasant, yr hysbysrwydd o dynged olaf ei frawd oddiwrth Captain Griffiths, o'r Fyddin Gymreig, yn Ffrainc. Newydd ymuno a'i gatrawd yr oedd, ar ôl gwella yn yr ysbyty o'i glwyfau blaenorol, pryd yr ymddengys iddo gyfarfod a'i ddiwedd trwy ffrwydriad shel.
Bu ei yrfa yn un ddisglaer a llwyddianus iawn yn yr ariandy, ac yr oedd yn uchel ei barch yno gan gâr a chyfaill ar gyfrif hynawsedd ei natur. Bu yn gwasanaethu y London City and Midland am 16 mlynedd, sef 5 mlynedd yn Nghonwy, ac 11 yn Birmingham. Yr oedd yn ddyn ieuanc gwybodus, difyr ei gymdeithas, a melus ei ymddiddanion. Carai fywyd syml, tawel a neillduedig, ac ymhoffai yny pethau hyny sydd yn rhoddi bri ar wir ddynoliaeth. Pan gwrddid ag ef y waith gyntaf canfyddai y craff ddeunydd gwir bersonoliaeth ynddo, ac addewid am ŵr cyflawn ei farn.
Yr oedd yn ganwyll llygad ei fam ac yn eiIun y brodyr. Y mae wedi cefnu yn awr ar ddialedd y gelyn a swn angeuol y fagnel, a gorphwys yr hyn sydd weddill o hono mewn estron dir yn y rhagolwg am well nef yn y man. Nos Sul yn nghapel Salem chwareuwyd y Dead March er cof anwyl am un ohonynt roddodd ei fywyd yn aberth yn ei dwf ar allor dyledswydd a chydwybod.
Cydymdeimlir yn ddwfn a'i fam a'r teulu oll yn eu galar a'u hiraeth dwys ar ei ôl.