MILWROL.
Mae Lifftenant T. J. Owen, mab Mr. a Mrs. Tom Owen, y Maes, wedi enill tystysgrif gyntaf mewn Aerial Gunnery. Yr oedd dros gant yn ymgeisio yn yr Arholiad, ac yr oedd efe ya sefyll yn ail.Y mae camrau y gwr ieuanc hwn wedi bod yn rhyfeddol yn myd milwriaeth o'r cychwyn.
Yr Udgorn 24/01/1917
AR GOLL.
Heddyw (foreu Mawrth) derbyniodd Mr Tom Owen, Maes, bellebyr oddiwrth Commander y Flying Corps yn Ffrainc, yn ei hysbysu tod ei tab, Flight- Lieutenant Thomas John Owen, ar goll. Ymddengys ei fod yn yr ymgyrch awyrol ofnadwy a gymerodd le ddiwedd yr wythnos uwchben gwersylloedd y gelyn yn Ffrainc, pan oeddynt wrthi yn egniol yn tyau darluniau ac ya cymeryd sylw manwl o'i symudiadau, a'i fod heb ddychwel yn ôl.Mae ei gyfeillion penaf, a'i deulu gofidus, ynghyd a thrigoliou y dref yn gyffredinol, yn disgwyl yn bryderus am y newydd calonogol o'i waredigaeth.
Yr Udgorn 11/04/1917
PWLLHELI LOSS.
Mr THOMAS Owen, ironmonger, Pwllheli, has received intimation that his only son Flight-Lieutenant T. J. Owen, is missing.Mr Owen, who was carrying on business as a motor mechanic at Pwllheli, joined the Royal Flying Corps six months ago, and had been in active service as scout pilot for four weeks.
North Wales Chronicle 13/04/1917
NEWYDDION PRYDERUS.
Cydymdeimlir yn fawr â Mr a Mrs Tom Owen, y Maes, yn eu pryder yn ngylch eu mab, Lieutenant T. J. Owen. Yr oedd ef yn cymeryd rhan yn y brwydrau erchyll a gymerodd le yn yr awyr yn Ffrainc ddiwedd yr wythnos o'r blaen.Ysgrifenodd lythyr adref foreu Sadwrn yn hysbysu ei deulu am frwydrau ofnadwy a gymerodd le yn yr awyr yn Ffrainc,
Bore Mawrth daeth pelebri'w dad ei fod ar goll.
Yr Herald Gymraeg 17/04/1917
AWYRWR IEUANC WEDI EI LADD.
Foreu dydd Iau derbyniodd Mr a Mrs Tom Owen, Maes, y newydd terfynol fod eu hunig fab, Flight-Lifftenant Thomas John Owen, wedi cyfarfod a'i dynged olaf mewn ymgyrch awyr yn Ffrainc. Disgwylid gyda dyfalwch a hyder mawr gan drigolion y dref fod gwaredigaeth ddiangol yn bosibl iddo, ond cyrhaeddodd y newydd, er gofid i'w deulu a'i gyfoed, fod y llanc gobeithiol wedi rhoi ei fywyd yn aberth dros ei wlad yn nhir yr estron.Yr oedd Lifftenant Owen yn ddyn ieuanc gwrol a phenderfynol, a gwnaeth gynydd eithriadol fel awyrwr medrus mewn byr amser. Ceid fod tueddiadau ei feddwl yn gogwyddo yn foreu iawn at fyd celfydd peirianwaith, ac yr oedd gobeithion uchel y deuai rhyw ddydd yn feistr o nod yn y ganghen werthfawr hon. Nodweddid ei fywyd gan benderfyniad di-ildio i ymgipris a'r anhawdd a'r dyrus, ac ymhoffai beunydd fyned heibio ffin y bywyd cyffredin a thawel i edrych dros y gorwelion i fyd oedd yn llawn o egnion datblygiad a chynydd gwareiddiad. Erbyn hyn y mae gyrfa y gwron ieuanc wedi dirwyn i ben, ac yntau wedi myned yn aberth dros ei ddelfrydau uchel a thros gyfiawnder gwlad ei galon.
Bachgen hoffus a glân o bryd ydoedd, a chanddo gyfoed lluosog yn edmygwyr eiddgar o'i wroldeb ac o'i gymwynasau tirion iddynt. Huned yn dawel yr hyn sydd farwol o hono yn ngwlad yr estron, a bydd i'w deulu galarus gael cysgod a nerth yn awr y brofedigaeth.