WEDI CWYMPO.
Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd newyddion trist y dref fod milwr ieuanc wedi colli'r dydd ar faes y frwydr yn Ffrainc. Derbyniodd Mrs Margaret Owen, New Street, y newydd fod ei mab ieuengaf, Private Hughie Carreg Owen, wedi syrthio yn aberth i gynddaredd y brwydro, a'i fod wedi ei gladdu yn mro estronol Ffrainc.Nid oedd y llanc addfwyn ond 25 mlwydd oed. Ymunodd yn gynar a'r fyddin, a bu yn aros i ymarferu yn ngwahanol fanau yn Lloegr cyn myned o hono drosodd i wynebu ei dynged olaf.
Yr oedd yn ddyn ieuanc tyner ei natur, ac yn garedig wrth reddf. Addfwynder ei fywyd a lledneisrwydd ei ymarweddiad a'i gwnaeth yn eilun i'r lluaws. Ceid ef bob amser yn dawel a thangwefeddus mewn cwmni, ac ni welid gwg un amser ar ei ael, na gweniaeth yn llechu yn nghymdogaeth ei galon dyner.
Hiraeth a erys yn ddwfn yn mynwes ei gyfoed am y cyfaill y machludodd ei haul mor gynar.
Y nef fo'n drugarog wrth ei fam yn ei thrallod blin am dano.
Yr Udgorn 24/10/1917
Pwllheli Hero.
Private HUGHIE OWEN, Son of Mrs. Owen, New-street, aged 25; has been killed in action in France.Pte Owen was saved from the Senghenydd explosion in South Wales about four years ago.
He showed remarkable courage in rescuing his fellow workmen from the pit.