YN GARCHAROR.

Yr wythnos hon derbyniodd teulu Private Willie Morris, Penrhydlyniog, lythyr oddiwrtho yn eu hysbysu ei fod yn garcharor yn Switzerland.

Yr oedd ei deulu yn bryderus iawn yn ei gylch gan fod y Swyddfa Ryfel ers misoedd bellach wedi rhoi ar ddeall iddynt ei fod ar goll.

Mae'r pryder dwfn fu'n eu llethu yn ddyddiol am dano yn awr wedi diflanu, a hyderwn ei fod yntau yn nhy ei gaethiwed yn holliach.

Yr Udgorn 20/11/1918


NEWYDD PRUDD.

Daeth y newydd yr wythnos ddiweddaf fod Private Willie Morris, mab y diweddar Mr. Lewis Morris, Penrhydlyniog, wedi colli ei fywyd ar faes y gad.

Yr oedd ar restr y rhai oeddynt ar goll ers misoedd. Yr oedd Private Morris o dueddiadau anturiaethus, ac yn wrol, a chanddo lu o gyfeillion.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu colled drom.

Yr Herald Gymraeg 25/02/1919