WEDI SYRTHIO.
Yr wythnos ddiweddaf daeth newydd prudd i'n bro fod Sergeant Tom Rees, Hen Bandy, wedi syrthio ar faes y gwaed yn Ffrainc, ar yr 22ain o Ebrill.Yr oedd yn fachgen hawddgar, yn hynod barchus, a gair da iddo gan bawb.
Yr Udgorn 08/05/1918
WEDI SYRTHIO.
Ddechreu yr wythnos ddiweddaf daeth newydd prudd i'n bro fod Sergeant Tom Rees, Henbandy, wedi syrthio ar faes y gwaed yn Ffrainc, ar y 22ain o'r mis o'r blaen.Credwn mai ef yw y pedwerydd yn yr ardal hon i farw yng ngwasanaeth ei wlad. Yr oedd yn perthyn i gatrawd Gymreig, pa un, fel y dywedir, oedd wedi gwneud gwrhydri mawr mewn amryw ysgarmesoedd celyd.
Nid oedd ond ychydig wythnosau er pan aeth drosodd y tro hwn i Ffrainc o'r Iwerddon, a bu gartref hefyd yn bur ddiweddar. Nid gormod dweud ei fod yn un o'r bechgyn hawddgaraf yn ein broydd, yn hynod barchus, a'r gair goreu iddo gan bawb. Roedd yn fachgen siriol a heinyf a golygus, ac yn 27ain mhvydd oed.
Y mae dau o'i frodyr yn ymladd, un wedi ei glwyfo yn ddiweddar, ac yn garcharor gan y gelyn. Mae'r teulu hwn wedi bod yn wladgarol tu hwnt. Yr oll wedi ymuno o'u gwirfodd.
Mae ein cydymdeimlad fel ardal a'r teulu yn eu dwfn alar a'u oolled.