MILWR POBLOGAIDD WEDI EI LADD.
Dydd Sadwrn derbyniodd Mr a Mrs R. C. Morris. West End Stores, Pwllheli, lythyr oddiwrth gaplan y fyddin yn eu hysbysu fod eu hunig fab, Private Albert Charles Morris, o'r West Kent Regiment, wedi ei ladd yn y frwydr yn Ffrainc.Nid oedd Private Morris yn llawn 20 mlwydd oed. Gwasanaethai fel clerc yn swyddfa Mr. T. J. Houghton Davies, cyfreithiwir, cyn y rhyfel, ac yr oedd yn fachgen hynod o boblogaidd a charedig.
Cydymdeimlir yn fawr â Mr a Mrs Morris a'r teulu yn eu profedigaeth dost.
Yr Herald Gymraeg 10/10/1916
CWYMPO YN Y FRWYDR.
Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr a Mrs R. C. Morris, West End Stores, newydd swyddogol oddiwrth Gaplan yn hysbysu fod eu hunig fab, Albert Charles Morris wedi syrthio ar faes y frwydr yn Ffrainc.Gwasanaethai Albert, cyn y rhyfel, fel clerc yn swyddfa Mr T. J Houghton Davies, cyfreithiwr. Yr oedd yn ei gymeriad, er nad oedd yn llawn ugain mlwydd oed, elfenau gwir foneddwr, a bydd yr adgof am dano fel bachgen hawddgar, o dymheredd bywiog a hapus, yn rhyw gymaint o gysur i'w rieni yn eu galar. Chwith gan lu o'i gyfoedion ieuainc fydd colli ei wen siriol, a'i bersonoliaeth ddeniadol.
Ymunodd a'r Tiriogaethwyr cyn toriad y rhyfel, a bu yn ymarferu â hwynt mewn amryw leoedd yn Lloegr. Ychydig amser yn ôl ymunodd yn wirfoddol â'r West Kent Regiment, ac aeth drosodd yn ddioed i faes y gwaed, a bu farw yno fel gwron ieuanc a'i ddyfodol yn wyn o'i flaen.
Gall ei rieni hoff, er yn ganwyll eu llygaid, sychu eu dagrau yn y ffaith fod Albert wedi dangos aberth dihafal wrth farw mor ieuanc, ac y mae y dref yn gyffredinol yn cydymdeimlo a hwy yn nwyster eu poen.
Wele ddyfyniad o'r llythyr anfonwyd gan y Caplan iddynt
"Dygwyd Albert Charles Morris i mewn Medi 30ain, wedi ei glwyfo yn drwm yn ei stumog, ac er holl ymdrech y meddygon drosto, bu farw Hydref yr 2il. Claddwyd ef mewn mynwent, a rhoddwyd croes bren ynghyd a'i enwi at oi ar fan fechan ei fedd, modd y gellir d'od o hyd i'w tedd ar ol y rhyfel fyned drosodd."
Dymuna Mr a Mrs R. C. Morris ddiolch yn fawr am y cydymdeimlad caredig a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth a'u colled drom.
Y mae nifer mor luosog fel y disgwylir iddynt dderbyn hyn ar eu rhan.