ANGLADD MILWROL.
Foreu Mercher diweddaf, yn dra disymwth, bu farw Private David Lewis, anwyl briod Mrs S. Lewis, 33, Lleyn Street, ac efe yn 28 mlwydd oed.Genedigol ydoedd o Brynaman, De Cymru. Daeth yma rhyw dair blynedd yn ôl i gael ei hyfforddi yn filwr mewn cysylltiad a'r R. F.A., ac ymbriododd a Miss Sallie Jones, Lleyn Street.
Hanai o deulu parchus a gwir anrhydeddus, a cheir hwy yn bobl uchel o fucheddiad yn Brynaman. Yr oedd o bersonoliaeth gadarn ac urddasol, ac yn filwr gwrol a phenderfynol iawn. Gwelodd frwydrau celyd yn Ffrainc, a bu trwy dreialon ac anhawsterau dirif yno. Gallodd ddianc bob tro yn ddianaf o ffwrneisiau anioddefol y brwydro, ac newydd ddychwel oddiyno yr oedd at ei briod ieuanc i fwynhau ychydig ddyddiau o egwyl, pryd y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd ac y byrhawyd ei ddyddiau. Byr fu ei gystudd, ac er pob gofal o eiddo y teulu a'r meddyg ffarweliodd a'r fuchedd hon yn more ei ddydd.
Ddydd Llun cymerodd ei angladd cyhoeddus le, yr hon oedd filwrol, yn mynwent Denio. Cyn cychwyn o'r tŷ bedyddiwyd yr eneth fach ar gauad arch ei thad gan y Parch ThomasWilliams, The Elms, ac yr oedd y gwasanaeth yn un dwys a theimladwy ryfeddol. Ar ôl hyny ymffurfiwyd yn orymdaith tua'r gladdfa, y Gwirfoddolwyr Lleol yn osgorddlu ac yna y cyhoedd yn dilyn yn weddaidd.
Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. Thomas Williams, ac yn y fynwent gan y Parch J. Edwards, B A.. y Ficer, a'r Gwirfoddolwyr Lleol. Yr oedd yr angladd yn un lluosog a pharchus iawn.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i briod ac a'r teulu oll yn eu profedigaeth chwerw.
Yr Udgorn 19/09/1917
CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.
Dymuna Mrs S. Lewis, gweddw ieuanc y diweddar Private D. Lewis, Lleyn Street, a'r teulu oll, gyflwyno eu diolchgarwch mwyaf pur, trwy gyfrwng yr UDGORN, am y cydymdeimlad eang a dwfn ddangoswyd tuag atynt yn wyneb y brofedigaeth chwerw a'u goddiweddwyd mor anisgwyliadwy.Gan fod y llythyrau a'r personau yn rhy luosog i'w hateb bob yn un, dymunent ar i'r cyfryw dderbyn yr amlygiad hwn o'u gwerthfawrogiad.