GWEITHRED ANYNOL Y GELYN.
Y mae y modd y suddir llongau marsiandiol Prydeinig, a'r eiddo gwledydd anmhleidiol, gan fadau tanforol y gelyn, yn ddigon i godi gwrid i wyneb gwareiddiad ac i roi gwarthnod bythol ar wir ddynoliaeth. Saif eu creulondeb a'u diystyrwch o bethau anwylaf bywyd yn hafal i ddim a ddigwyddodd yn hanes yr hil ddynol erioed.Ymysg y rhai fu mor anffortunus i ddisgyn i'w dialedd y mae rhai o forwyr ieuainc dewr y dref, ac y mae hanes y driniaeth a gawsant yn ddigon a gwneud i waed dyn rewi yn ei wythienau, a'i yru at ffin gwallgofrwydd.
Cyfeirio yr ydym at yr ager-long "Artist," criw yr hon a ymddygwyd tuag atynt wrth ei torpedio, yn farbaraidd tu hwnt i ddesgrifiad.
Collodd Mr Spencer Jehu, unig fab Mrs Jehu, Oakley House, West End, ei fywyd mewn canlyniad i oerni anioddefol yn y cwch. Bu ei ymdrech yn arwrol i achub ei hun, ond ymollyngodd yn ddewr i'w dynged yn nghanol tonau gerwin y môr a'r gwyntoedd certh.
Yr Udgorn 06/02/1917
BARBAREIDDIWCH Y GELYN.
Desgrifir y modd y bu i'r gelyn suddo y llong Artist fel y weithred fwyaf barbaraidd ac anynol o'u heiddo.Drwg genym ddeall fod Mr. Spencer Jehu, 18 mlwydd oed, unig feb Mrs. Jehu, Oakley House, West End, Pwllheli, wedi colli ei fywyd mewn canlyniad i oerfel yn y cwch. Hefyd, yr oedd Mr. Johnny Jones, mab Mr. John Jones. station-master ar ei bwrdd, ac y mae pryder mawr o berthynas iddo gan na chlywodd ei deulu ddim yn ei gylch.
Cydymdeimlir yn fawr a theulu y naill a'r llall. Yr oedd Mr. Christmas Edwards, mab Mr a Mrs Edward Edwards, High Street, hefyd yn mhlith y dwylaw a daeth brysneges oddiwrtho ef nos Fercher yn dweyd ei fod wedi glanio yn ddiogel mewn tref yn yr Iwerddon. Dyma'r trydydd tro iddo ef fod mewn llongddrylliad er pan y torodd y rhyfel allan. Yr oedd y ddau fachgen ar eu hail fordaith.
Yr oeddynt yn fechgyn siriol, deallgar, a hoffus dros ben.