Caplan Cymreig wedi ei Ladd.
EI SAETHU PAN YN GWEINI AR Y CLWYFEDIG.
Derbyniwyd y newydd ym Mhwllheli fod y Parch. W. E. Jones, caplan, wedi ei ladd yn Ffrainc. Yr oedd Mr. Jones yn gweithredu fel clerc yn Swyddfa'r diweddar Barch. D. E. Davies ym Mhwllheli cyn y rhyfel, ac yn pregethu gyda'r Bedyddwyr.Ymunodd a'r fyddin fel milwr cyffredin ar ddechreu rhyfel, ac anafwyd ef yn ei law fel y rhyddhawyd ef o'r fyddin. Wedi hynny ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Nghaersalem, Caernarfon, a chafodd ei benodi yn gaplan.
Dyma led-gyfieithiad o lythyr a gafodd Mrs Jones, ei fam, yr hon sydd yn awr yn byw yn Felinheli, oddiwrth y Parch. Charles L. Parry, caplan.
Anwyl Mrs. Jones.
Gorchwyl poenus iawn inni ydyw hysbysu fod eich mab, y Parch. W. E. Jones, wedi ei ladd mewn brwydr boreu ddoe. Bydd hyn yn brofedigaeth chwerw iawn i chwi ar ôl eich profedigaeth o golli eich priod yn ddiweddar. Aeth eich mab i'r ymosodiad gyda'i gwmni, a saethwyd ef yn ei ben pan yr oedd yn cludo milwr clwyfedig. Lladdwyd swyddog y cwmni hefyd.
Gallaf ddweyd fel ei gaplan hynaf ei fod yn un o'r capleniaid goreu, bob amser yn barod i wynebu perygl, a theimlir colled cyffredinol ar ei ôl yn y fyddin. Yr oedd yn weithiwr caled ac yn dra phoblogaidd. Bu farw yn odidog tra yn cyflawni ei ddyledswyddau, a chladdwyd ef mewn mynwent gyfagos. Anfonir darlun o'i fedd i chwi.
Gallaf ddweyd, ar fy rhan fy hun a'm cyd-gapleniaid, fod yn ofidus iawn gennym ei golli, ac anfonwn ein cydymdeimlad dyfnaf a chwi, ac yn eich cyflwyno i ofal yr unig Un a all eich cynnal yn y brofedigaeth hon.
Yr Udgorn 23/10/1918
CYDYMDEIMLAD.
Cydymdeimlir yn ddwfn fel ardal â Mrs. Jones, mam y diweddar Barch. W. E. Jones (gynt o Tyddyn Shon) yn ei phrofedigaeth lem a disyfyd.Yr oedd yn bregethwr ieuanc gobeithiol, gyda dyfodol disglaer o'i flaen, ac yn uchel ei barch yn yr holl ardal.