WEDI CWYMPO.

Ddydd Gwener derbyniodd Mrs Catherine Jones, Gadlys, hysbysrwydd fod ei mab, Private Richard Jones, wedi syrthio yn aberth ar faes y drin yn Ffrainc.

Rhyw dair wythnos yn ôl yr oedd y cymrawd tirion ar ymweliad a'i gartref o'r gwersyll yn yr Iwerddon cyn myned o hono drosodd i Ffrainc.

Yr oedd yn fachgen cryf a hardd o ymddangosiad, ac yn llednais a charedig ei ffordd. Gwnaeth aberth eithriadol wrth ymuno oherwydd grym ei ofal a'i warchodaeth cyson dros ei fam yn ei gwaeledd blin, yr hon a garai mor angerddol. Rhoes ei fywyd tyner i lawr pan oedd addewidion ei ddyfodol yn gwynu ac yn ymagor fel rhamant dlos o'i. flaen.

Cydymdeimlwn a'i fam yn ei thristwch.

Yr Udgorn 06/11/1918


Tranc ein Bechgyn.

Cafodd Mrs Jones, 7, Gadlys Terrace, ei hysbysu fod ei mab, y Preifat Richard Jones wedi ei ladd ar faes y frwydr.

Yr Herald Gymraeg 13/11/1918