WEDI CWYMPO.
Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd newyddion trist y dref fod milwr ieuanc wedi colli'r dydd ar faes y frwydr yn Ffrainc. Derbyniwyd neges fod Private Richard Jones, Penrhydlyniog, wedi cyfarfod a chyffelyb ddiwedd.Bachgen bach amddifad o rieni ydoedd, ond dygwyd ef i fyny yn dyner ac anwvl gan Mr a Mrs Robert Griffith, Penrhydlyniog. Bu yn gwasanaethu yn y Ffactri am flynyddoedd ac yn siop Mr Denman, Maes.
Llanc hynod wylaidd a thawel oedd, a rhyw swyn denol yn ei bersonoliaeth i bawb. Yr oedd y rhiniau hyn yn ei wneud yn fath o foneddwr bach mewn cwmni. Mor ddifeth y chwareuai gwên ar ei ruddiau beunydd, a'i galon ar y wyneb. Gwyddai beth oedd ing dioddefaint o golli rhieni, ond cafodd gartref clyd yn nghysgod teulu caredig.
Erbyn hyn y mae wedi rhoi ffarwel i fyd poen yn fab 22 mlwydd oed, a gorffwys ei lwch yn naear bro estronol.
Hedd i lwch y llanc.