Honour for an Engineer.
Mr John H. Jones, son of Mr David Lloyd Jones, Jeweller, has been awarded the Liverpool Ship wrecked and Humane Society Medal for gallant service in saving the crew of a French schooner in the Atlantic last August.Mr. Jones is second engineer on the steamship "Saint Leonards," Liverpool.
He volunteered to go out in a small boat during a heavy gale at night and managed to rescue the crew when the vessel was sinking.
Cambrian News 19/11/1915
DEWRDER BACHGEN O BWLLHELI.
Achub Dwylaw Llong.
Yr wythnos ddiweddaf cyflwynodd y "Liverpool Shipwreck and Humane Society" eu bathodyn i Mr John W. Jones, mab hynaf Mr a Mrs David Lloyd Jones, High Street, Pwllheli (oriadurwr). Mae Mr. Jones yn gwasanaethu fel peirianydd ar yr agerlong Saint Leonards, perthynol i'r Cwmni Rankin, Calmour and Co., Lerpwl.Mae yn argraphedig ar y bathodlyn, "To J. W. Jones, S.S. St Leonards, for gallant service, August 13, 1915."
Mewn llythyr a anfonodd adref disgrifia Mr. Jones y modd y bu iddo gymeryd rhan mewn achub bywydau criw Llong hwyliau fechan perthynol i Ffrainc.
Dyma fel y dywed: "Cawsom brofiad newydd hollol wrth groesi y tro hwn. Pan oeddym tua chanol y Werydd, oddeutu haner nos, Awst 12ed, gwelsom oleuadau yn galw am gymorth ar long fach oedd mewn cyfyngder. Yr oedd yn dywyll iawn, ac yn bwrw yn drwm. Daeth y Capten i alw arnaf o'm gwely er cael golwg arni. Tua 12-30 daethom yn ddigon agos i wneyd arwyddion iddynt. Yr oeddym mor agos fel y bu iddynt waeddi yn ôl fod arnynt eisiau gadael y llong am ei bod yn suddo. Bu i ni ollwng cwch i lawr, a chan fy mod i yn rhydd o'r wyliadwriaeth ar y pryd, cynygiais gymeryd rhwyf yn y cwch. Yr oedd y mate yn gofalu am y cwch.
Yr oedd y mor yn donog iawn, ond yr oedd y gwlaw yn lliniaru peth ar ei gynddaredd. Daethom i ymyl y llong yn hwylus. Pwysai y Capten am i'r mate fyned ar ei bwrdd er gweled ei fod yn gwneyd pob peth angenrheidiol er dinystrio y llong cyn ei gadael. Gofynodd y mate i mi fyned gydag ef i'r llong, ac aethom ein dau i'r saloon. Buom ar ei bwrdd am tua 10 munud a chyn ei gadael gwelsom fod y llong wedi ei rhoddi ar dan, ac yn prysur suddo. Cynwysai y criw saith o ddynion. Yr oedd yn debyg o ran maint i un o longau Porthmadog. Perthynai i Ffrainc, a deuai y criw o Bordeaux. Ac yn hynod iawn yr oeddym ninau wedi cychwyn o Bordeaux. Dywedai y Capten eu bod wedi cael profiad enbyd. Buont yn pympio dwfr o'r llestr yn ddibaid am 15 diwrnod ac ni welsant yr un long ar y weilgi fawr yn ystod yr holl amser.
Cafodd St Leonards, fodd bynag, y fraint o ddwyn y criw i ddiogelwch."
Yr Herald Gymraeg 23/11/1915
NEWYDD TRIST.
Foreu Sadwrn derbyniodd Mr a Mrs D. Lloyd Jones, Watchmaker, bellebyr yn eu hysbysu fod eu mab hynaf, Mr John William Jones, Peirianydd, wedi marw yn yr ysbytty yn Marseilles, Ffrainc.Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu yn eu galar.
Yr Udgorn 18/04/1917
MARW PEIRIANYDD DEWR.
Fel yr hysbyswyd yn fyr yr wythnos ddiweddaf am farw cynar y cyfaill ieuanc dymunol Mr John William Jones, Peirianydd, mab Mr a Mrs D. Lloyd Jones, Watchmaker, mewn ysbyty yn Marseilles, Ffrainc, derbyniodd y teulu lythyr yn rhoi pob gwybodaeth posibl modd y daeth ei yrfa ddaearol i ben mor ddisymwth.Yn ôl y llythyr a gaed ymddengys ddarfod iddo gael ei gymeryd yn wael yn yr agerlong, a symudwyd ef i ysbytty, o dan ofal specialist, ond bu farw er pob ymgais posibl o'i eiddo i adfer ei fywyd. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus, a rhoes criw y llong ddwy flodeu-glwm hardd ar ei fedd, a chyfranwyd ganddynt i roddi careg i nodi man ei orweddle.
Gadawodd ei gartref nos Wener y Groglith mewn iechyd a hoen perffaith, ac addewidion gwyn fel sêr gobaith yn llanw gwybren ei ddyfodol, ond yn ddirybudd "gostyngwyd ei nerth ar y ffordd byrhawyd ei ddyddiau," a chreodd y newydd dristwch mawr wrth feddwl fod, loewed athrylith wedi diffodd mor foreu ar randir Ffrainc. Mor sydyn oedd yr alwad fel y gellid dweyd iddo ymron weled marwolaeth, ond na phrofodd mohono. Cerddodd megis yn ei ddillad gwaith, heb ol brys arno, yn hamddenol i dragwyddoldeb, a gwrid prydferth naw ar hugain haf ar ei wedd.
Gan hyny ni chafodd ei deulu a'i gyfeillion agosaf iddo - pan ddaeth y newydd gwir amdano - egwyl i ymgynefino a'r syniad hyd yn hyn fod Johnnie Williams yn ei fedd!
Rhoes Ffrainc gyfran o'i thir yn lletty noswyl iddo yn ad-daliad am ei ddewrder dihafal flwyddyn yn ôl yn achub criw llong perthynol iddynt rhag dyfrllyd fedd. Cafodd ganddynt fathodyn a thystysgrif yn gof am yr amgylchiad.
Yr oedd yn ŵr ifauc gobeithiol fel peirianydd medrus, a llwydd megis yn cynyg ei llawryfon goreu iddo. Meddai bersonoliaeth ddenol, a gwelid ar unwaith yn ei gwmni ei fod yn ddoeth a chynit ei ddawn. Ni cheid ynddo fost nac ymchwydd hunanol, ond gwir haeddiant i hawliau dynoliaeth oreu ar y person unigol. Ni allai oddef coeg-ddigrifwch, er sirioled ei natur, os byddai i hwnw fychanu synwyr a moes. Hawdd ydoedd canfod oddiwrth ei ystum ei fod wedi penu cynllun ei oes gan mor ddiwyro y cadwai yr hyn a enillodd trwy ddyfalwch ac ymchwil. Er mordwyo y weilgi lydan, a chymdeithasu a bywyd cudd y gwledydd, cadwodd ei wisg yn Iân a'i gymeriad yn ddilychwin. Anwylyn yn mysg ei gyfoed ydoedd, ac anhawdd fydd i'w gyfeillion beidio hiraethu am y cyfaill tirion a noswyliodd mor gynar, ac addewid mor wych am oes mor ddefnyddiol iddo.
Gall ei deulu ymdawelu heddyw am fod un mor anwyl iddynt wedi glanio i fyd na welsom nac adfyd yn oesoesoedd. Gellir dweyd am dano, fel am arall tebyg :
"Ei dderbyn ga'dd i harbwr
Heb don ar wyneb y dwr."
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i deulu trallodus yn ymchwydd yr ystorm.
Yr Udgorn 25/04/1917
NODI MAN EI FEDD.
Rhoes cyd-swyddogion y diweddar a'r anwyl Mr John William Jones, mab Mr a Mrs D. Lloyd Jones, gofgolofn o farmor hardd ar ei fedd yn Ffrainc, fel arwydd dwfn o'u serch a'u hedmygedd o hono.Yr Udgorn 30/05/1917
PROFEDIGAETH LEM.
Cydymdeimir yn fawr â Mr. a Mrs Roberts, Pantymoeliad, yn eu profedigaeth o golli eu mab. Mr. Griffith Roberts. Yr oedd efe yn brif swyddog ar agerlong bwysig.Bu i'r gelyn suddo y llong, a chollwyd ugain o'r dwylaw, ac yn eu mysg yr oedd Mr G. Roberts. Fe achubwyd 14 o'r dwylaw. Yr oedd ef tua 30 mlwydd oed. ac wedi cyrhaedd safle anrhydeddus
Yr oedd Mr. J. W. Jones, mab Mr. David Lloyd Jones, Pwllheli, yr hwn fu farw mewn ysbyty yn Ffrainc, wedi cychwyn gyda'r un llong. Yr oedd Roberts yn cludo ei ddillad a'i gelfi yn ôl i'w deulu, ond collwyd yr oll gyda'r llong.