MARWOLAETHAU SYDYN.
Ddydd Sul, wedi byr gystudd, bu farw Mr Griffith Jones mab Mrs. Catherine Jones, Lleyn Street, ac efe yn 28 mlwydd oed.Beth amser yn ôl rhyddhawyd ef o'r fyddin ac aeth i weithio i waith cyfarpar. Gwasanaethai cyn ymuno yn wirfoddol a'r fyddin gyda Mr William Lewis, Leeds House, ac edrydhid i fyny ato yn y masnachdy fel dyn ieuanc deallgar, gonest a didwyll.
Gwelodd waethaf y gyflafun yn Ffrainc, a derbyniodd hylif trwm o'r nwy gwenwynig mewn brwydr yno nes gostwng ei nerth ar y ffordd a byrhau dyddiau ei einioes ar y ddaear. Carai ei fam weddw yn angerddol, a gwnai bopeth iddi. Caffed hûn dawel. Enillodd y cyfryw dangnefedd yn anrhydeddus. Duw fo'n gysgod i'w fam unig.
Cydymdeimlwn a'r teulu yn eu trallod chwerw a dwfn.
Mor wir heddyw onide y gwireddir yn hanes yr hil ddynol ddyfnder meddwl yr englyn canlynol
"Gall gwr fod neithiwr yn iach,— y boreu
Heb arwydd amgenach,
Yfory'n annifyrach,
Drenydd ar obenydd bach!"
Yr Udgorn 30/10/1918
GWRON O BWLLHELI.
Bu farw Mr. Griffith Arthur Jones, mab Mr. a Mrs. Morris Jones. Lleyn Street, Pwllheli, mewn canlyniad i'r nwyon gwenwynig a dderbyniodd ar faes y rhyfel, yn 25 mlwydd oed.Ymunodd a'r fyddin cyn pen y mis ar ôl toriad y rhyfel allan, ac aeth drosodd i Ffrainc y Nadolig dilynol. Clwyfwyd ef yn yr ymdrechfa, ac anafwyd ef yn ôl drachefn pryd y gwenwynwyd ef gan y nwyon. Bu ar ôl hynny mewn ysbyty yn Stockport, ac wedi hynny mewn Sanatorium yn Llangefni.
Er y cwbl gwanhaodd ei nerth a bu farw ar Hydref 27ain, 1918, a chladdwyd ef y dydd olaf o'r n mis.
Bachgen siriol a llawen ydoedd, ac yn hynod boblogaidd yn mysg ei gyfoedion.