NEWYDD TRIST.
Ddydd Iau derbyniodd Mrs Jones, priod y diweddar Mr. William Jones, Butcher, Sand Street, hysbysrwydd prudd fod ei hunig fab, Private David John Jones, wedi syrthio yn aberth dros ei wlad yn Ffrainc, yn 23 mlwydd oed.Yr oedd David John yn fachgen ieuanc hoffus a thawel, ac yn meddu cymeriad rhagorol. Yr oedd yn aelod selog yn Seion, a phob amser yn hynod weithgar.
Cydymdeimlwn o galon a'i fam weddw yn ei phrofedigaeth drom o golli ei hunig fab a'i hunig gysur, a'r Gwr fu'n dirion wrth y "weddw unig" gynt fo'n noddfa dawel iddi hithau yn nydd yr ystorm.