MARW O'I GLWYFAU.
Nos Lun derbyniodd Mrs Jones, Moelydon, South Beach, hysbysrwydd trist fod ei mab ieuengaf, Private Arthur E. Jones, wedi marw o'i glwyfau mewn ysbytty yn Lloegr.Yr oedd y diweddar Private Jones yn frawd i Mrs. Dr. R. Jones-Evans, Minydon.
Cafodd ei archolli yn ddwfn, rai misoedd yn ôl, mewn ymladdfa erchyll yn Ffrainc, a bu dan weithred law-feddygol amryw weithiau tra yn yr ysbytty, gan fod yr archollion a dderbyniodd yn rhai difrifol. Disgwylid er popeth y deuai trwy y cyfan yn ddiangol, ond diangodd ymaith er pob ymgais a medr o eiddo'r meddygon goreu.
Ymunodd o'i wirfodd ar ddechreu y rhyfel yn Canada, ac yr oedd yn filwr dewr a phwyllog. Yr oedd yn ddyn ifanc tawel a dirodres iawn, a rhoes ei fywyd yn aberth dros ei wlad.
Cydymdeimlwn yn ddwys â'i fam weddw yn unigrwydd ei phoen, ac a'r teulu oll yn eu hiraeth a'u trallod dwfn am dano.
Yr Udgorn 23/05/1917
MARW MEWN YSBYTY.
Cydymdeimlir yn fawr â Mrs Jones, Moelydon, yn ei phrofedigaeth lem o golli ei mab, Private Arthur Wynne Jones, yr hwn a fu farw mewn ysbyty yn Warrington. Nid oedd ond 22 mlwydd oed.Clwyfwyd ef pan yn pan yn ymladd dros ei wlad yn Ffrainc flwyddyn yn ôl, a bu dan driniaeth yn yr ysbyty o hyny hyd nawr.
Ymunodd a'r fyddin yn Canada. Claddwyd ef ddydd Gwener, yn Felinheli. Mae ei ddau frawd yn swyddogion yn y fyddin.