YN YR YSBYTY.
Deallwn fod Private Tom Hughes, 1, Church Street, wedi dod drosodd o Wlad yr Addewid i ysbyty yn Bristol.Mae wedi bod am rai misoedd mewn ysbyty yn yr Aipht yn ceisio adnewyddu ei nerth ar ôl brwydro caled am amser maith.
Hyderwn y caiff lwyr wellhad yn fuan.
Yr Udgorn 22/05/1918
ANGLADD MILWROL.
Dydd Sadwrn claddwyd Mr Thomas Hughes, Church Street, cyn-filwr, gyda rhwysg milwrol yn mynwent Denio.Bu ef yn cymeryd rhan yn y brwydro yn y Dardanelles, a chollodd ei iechyd ers amryw fisoedd.