WEDI EI GLWYFO.
Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr John Hughes, Penrhydlyniog. hysbysrwydd fod ei fab, Private Sam Hughes, wedi ei glwyfo ar faes y frwydr yn Ffrainc.Dro yn ôl collodd brawd iddo ei fywyd ar ei ffordd i'r Aifft, a syrthiodd un arall yn aberth i'r gelyn yn y frwydr boeth fu am Gaza.
Cydymdeimlwn a'r teulu yn eu profedigaethau aml sy'n dod i'w rhan, a gobeithiwn y bydd i Sam gael adferiad buan o'i glwyfau.
Yr Udgorn 03/07/1918
WEDI CLWYFO.
Derbyniodd Mr. John Hughes, air fod ei fab, Private Samuel Hughes. wedi ei glwyfo yn drwm ar faes y gwaed yn Ffrainc ac wedi ei gludo drosodd i ysbyty yn Llundain.Cydymdeimlir a'r teulu trallodus, yn arbennig felly am fod dau o frodyr Private Hughes eisoes wedi colli eu bywydau yn y rhyfel. Dymunwn i'r wellhad buan iddo.
Yr Herald Gymraeg 01/10/1918
MARW MILWR.
Dydd Sul bu farw Mr. Samuel Hughes, Penrhydleiniog, ar ôl hir waeledd.Bu ef yn gwasanaethu ei wlad am flynyddau a chlwyfwyd ef yn dost yn Ffrainc. Yr oedd yn fachgen ieuanc hoffus a dymunol. Bu i ddau frawd iddo syrthio ym y rhyfel fawr.
Cymerodd yr angladd le yn mynwent y dref ddydd Nadolig.