ABERTH Y RHYFEL.
Boreu Llun, 2fed, daeth yr hysbysrwydd trist o'r Swyddfa Ryfel fod y brawd ieuanc hoff, Pte. William R Pritchard, mab Mr a Mrs Pritchard, 'Refail, wedi syrthio mewn brwydr yn Ffrainc ar Awst y 5ed.Er fod y teulu heb dderbyn gair oddiwrtho ers rhai wythnosau yr oeddynt yn byw mewn gobaith, ond i'r gwrthwyneb y bu pethau.
Ychydig gyda blwyddyn oedd ers pan ymunodd a bu yn gwersylla cyn mynd i Ffrainc yng Nghroesoswallt. Yr oedd yn fachgen ieuanc golygus a glandeg.
Effeithiodd y newydd trist yn drwm iawn ar yr ardal. Yr oedd yn un o'r dynion ieuainc mwyaf rhadlon a dymunol, yn gyfaill dirodres, hynaws a charedig a phawb o'i gydnabod yn hoff ohono. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys Ebenezer (M.C.), ac hefyd yn un o ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Mae colli bechgyn y naill ar ôl y llall fel hyn yn beth trwm iawn i feddwl andano.
Estynwn i'r teulu hwn eto ein cydymdeimlad dyfnaf yn eu galar chwerw.