CLWYFEDIGION RHYFEL.
Derbyniodd Mr a Mrs Robert Hughes, Tan'rallt Terrace, hysbysrwydd yr wythnos o'r blaen fod eu mab, Private Robert Hughes, wedi ei glwyfo mewn brwydr yn Mhalestina bell. Bu, gan ei fod wedi ymuno ar doriad allan y rhyfel, mewn llu o ysgarmesoedd celyd a brwnt yn Ffrainc, a chafodd ei glwyfo yn ddifrifol yno. Mewn canlyniad bu'n orweddiog mewn ysbytty am fisoedd o dan boenau archolledig ei gorff.Wedi ymiachau yn ddigonol o'i glwyf gwynebodd eilwaith faes yr ymladd, a chafodd ei glwyfo, fel yr hysbyswyd, unwaith yn rhagor.
Dymunwn i'r cyfaill tirion adferiad buan.
Yr Udgorn 23/05/1917
ODLAU BARDDAS GAN FILWR CLWYFEDIG.
Anfonodd Corporal R. O. Hughes, North Street, y penillion canlynol i'w briod. Fel y gwyr llawer bellach fod Bob (fel yr adweinid ef) wedi ei glwyfo yn mrwydr Gaza. Clwyfwyd ef o'r blaen yn Ffrainc, ac aeth drosodd i'r Aifft yn mis Chwefror diweddaf, ac ni fu ond ychydig ddyddiau nad oedd wedi ei glwyfo, a bu yn orweddiog yn yr ysbytty.Mae yn awr wedi gadael yr ysbytty, ac wedi myned i Convalescent Home er adenill nerth.
Blin i ni yw'r amgylchiadau,
A'r gwahanu oedd drwm gur,
Ond er hyny - cwlwm cariad
Aiff yn dynach, - yn fwy pur;
Paid dig'loni, mae a'n gwylia
Os oes rhyngom bellder mawr,
Duw a'i ras, o'i fawr drugaredd,
Wylia drosom bob yr awr.
Os na chaf fi wel'd dy wenau,
Am fy mod mewn estron dir,
Drwy drugaredd Duw cawn gwrddyd
Mewn hedd eto cyn bo hir;
Heulwen dyr trwy'r tew gymylau,
Coron gawn 'rol croesi'r byd;
Cofio wnawn yn mhob ystorom,
Tad sydd wrth y llyw o byd.
Cpl. R. O. HUGHES.
Yr Udgorn 04/07/1917
WEDI CWYMPO.
Prudd iawn oedd y newyddion swyddogol ddaeth i'r dref yr wythnos ddiweddaf o faes yr heldrin yn Mhalestina. Wele'n canlyn enwau tri, milwr dewr a gollasant eu bywyd dros wladgarwch a chysegredigrwydd cytundeb :- Private Robert Hughes, mab ieuengaf Mr Robert a Mrs Catherine Hughes, Tan'rallt Terrace; Private Willie Green, mab Mr a Mrs Tom Green, Fruit Shop, High Street; Lance-Corporal Richard Pierce, mab Mr a Mrs Richard Pierce, Tan'rallt, Abererch.Anhawdd peidio ymollwng i gwynfan uwchben difrod yr rhyfel wrth weld rhosynau'r oes yn gwywo yn eu twf, ac angeu llym yn agor bedd-rodau cynar i blant yr addewidion mewn gwledydd estronol. Yr oedd y bechgyn anwyl hyn yn meddu ar neilttuolion arbenig oedd yn eu gwneud yn hysbys mewn amryw gylchoedd o gymdeithas, a bydd eu lleoedd yn wâg a diadfer mwy. Gwelsant ddyddiau tywyll ac anobeithiol mewn aml i frwydr galed cyn cyfarfod o honynt a'u tynged olaf, a safasant yn wyneb yr anocheladwy yn deilwng o wroniaid hanes Cymru Fu.
Huned y dewrion mwy yn naear dawel y dwyrain bell, o swn megnyl a chri yr alanas, hyd foreu gwyn y codi.
Cysured y nef eu teuluoedd hiraethus yn nghanol y ddrycin ddihedd, a bydded i'r cyfryw gael nerth i'w dal yn dawel.