COLLI EI FYWYD.
Derbyniodd Mr John Hughes, Maesyllyn, Rhydlyniog, hysbysrwydd gofidus fod ei fab, Private Robert Hughes, wedi cyfarfod a'i ddyfrllyd fedd, trwy i'r llong gael ei thorpedio gan y gelyn. Yr oedd Private Hughes yn fachgen dymunol iawn, a phawb yn hoff o hono. Bu yn Ffrainc yn ymladd, ac ar ei daith i le anhysbys yr oedd pan gyfarfu a'i ddiwedd anisgwyliadwy.Ychydig fisoedd yn ôl collodd ei anwyl fam, ac wele brofedigaeth finiog arall yn goddiweddu y teulu unig hwn.
Y mae cydymdeimlad llwyr y dref â hwy yn eu tristwch.