WEDI CWYMPO.
Dydd lau daeth y newydd prudd i'r dref fod Private John Hughes, mab Mr John Hughes, pysgotwr, Penrhydlyniog, wedi ei ladd yn yr Aifft.Nid oes ond ychydig amser er pan gollwyd brawd iddo wrth groesi i gymeryd rhan yn yr ymladd yn yr Aifft. Foreu y derbyniwyd y newydd trist cyrhaeddodd ei frawd, Private Sam Hughes, adref o Ffrainc.
Yr oedd yn fachgen dymunol a hoffus. Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu oll yn eu tristwch.