PWLLHELI OFFICER KILLED.
News arrived at Pwllheli that Lieutenant Hugh R. Hughes, of Gwylfa, Pwllheli, has been killed on the battleship "Bulwark."He was the second son of the late Captain Hughes, Pwllheli, and brother of Jones Hughes, Grocer, Pwllheli.
Aged 31 years and single, he served for many years as an officer under the Canadian Pacific, and joined the Navy eighteen months ago. He obtained a first-class certificate in gunnery.
Liverpool Echo 27/11/1914
BACHGEN O BWLLHELI AR FWRDD Y BULWARK.
Ymysg y rhai a gollodd eu bywydau yn ninystr affortunus y rhyfel-long Bulwark yr oedd Lieutenant Hugh R. Hughes, Gwylfa, St. Peters Terrace, Pwllheli, ac efe ond bachgen ieuanc 31 mlwydd oed ac yn hawddgar a hoffus gan bawb yn y dref. Ail fab ydoedd i'r diweddar Capten Henry Hughes (Venus) a Mrs Hughes, Salem Terrace, Pwllheli, a brawd i Mr. Jones Hughes, Grocer, Tower Stores, Pwllheli.Pan gyrhaeddodd y newydd am ddinystr y llong nos lau, pellebrodd Mr. Jones Hughes i ymholi ynghylch ei frawd, a chaed atebiad oddiwrth yr awdurdodau milwrol fod yn ofidus ganddynt ddweyd na bu i'r un o swyddogion y llong gael eu hachub. Bu Mr. Hughes yn gwasanaethu fel swyddog dan gwmni y Canadian Pacific, ac onibai iddo ymuno a'r Llynges ddeunaw mis yn ôl buasai ar fwrdd y Llong Empress of Ireland pan gyfarfyddodd a'i diwedd. Mewn llythyr a ysgrifenodd i'w frawd yn ddiweddar adroddai am yr ymosodiadau a wnaed ar ei long gan submarine y gelyn. Yr oeddynt un tro wedi gwneyd ymgais i ddinystrio y llong ond llwyddasant trwy fedr mawr i'w hosgoi o ryw ychydig droedfeddi. Datganodd ei ofnadwyaeth y byddai ei gorph yn ymborth i bysg y mor cyn hir; ond nid oedd neb yn meddwl fod hyny mor agos.
Bu ei chwaer Miss J. B. Hughes, yr hon oedd yn aelod o Gymdeithas y Groes Goch yn Belgium, mewn helyntion mawrion, yr oedd yn gofalu am y cleifion yn Brussels a chymerwyd hi yn garchares gan y gelyn, ond cafodd ei rhyddhau a chyrhaeddodd adref yr wythnos ddiweddaf. Bydd ini glwyed hanes ei threialon yn llawn yr wythnos nesaf.
Bodola cydymdeimlad cyffredinol a'r teulu yn eu profedigaeth. Bu i Lieutenant Hughes anfon llythyrau dyddorol iawn i'w chwiorydd yn Gwylfa. Pwllheli, a'i frawd Mr. Jones Hughes, Tower Stores, Pwllheli, y rhai sydd yn dangos teimlad mor wrol a hunan-aberthol sydd yn meddianu ein mor-filwyr.
Mewn llythyr a anfonodd o Portsmouth ar Gorphenaf y 27ain dywed: "Yr wyf yn ysgrifenu yn awr rhag ofn na chaf gyfleustra eto. Bydd i ni mae'n debyg gel ein galw allan heddyw'r prydnawn. Edrycha pethau yn bur ddifrifol. Yr oedd yllongau dinystriol Germanaidd yn ddigon hyf i hwylio trwy yr afon heddyw. Os mai allan yn chwilio am gyfle i ymladd y maent, by gum bydd iddynt ei chael. Y mae fy ngwaed yn berwi ynof. Yr wyf newydd anfon cais i'r Morlys i ofyn os y tyr rhyfel allan a gaf fi aros ar y Bulwark, gan fod arnaf eisiau bod "yn nghanol yr ymladd." Cofier mai perthyn i'r Canadian Pacific yr oedd ef ac nad oedd ei dymor yn y Llynges ond dwy flynedd. Aiff yn mlaen i ddweyd ei fod wedi bod yn ymladd a'r Germaniaid yn ei feddwl trwy'r boreu, ac fod ei freuddwyd ef fel rheol yn cael ei sylweddoli.
Mewn llythyr, dyddiedig Awst y pumed, ysgrifena i Mr. Jones Hughes, ei frawd. Ar ôl ei hysbysu ei fod yn cael ei lythyrau yn iawn a'i anog i ysgrifenu iddo dywed, "Y mae y rhyfel wedi ei chyhoeddi. Ni bu erioed adeg fel yr un presenol ac yr ydym yn barod fel un gwr. Y mae llawer o bethau na wiw i mi eu datguddio i chwi er na wn y rheswm paham gan fod y 1st Battle Squadron wedi gadael y porthladd yma (Portland) tuag awr yn ôl. Yr oedd yr holl dref yn eu gweled ar gymeradwyaeth oddiar y llongau yn fyddarol. Chwareuai y seindorf y "Rule Britannia" (Duw a'n bendithio), a chaneuon eraill. Yr oeddynt mae'n debyg yn myned i flaenori y milwyr i Ffrainc, a bydd i ninau eu dilyn ar fyrder. Yr unig beth a all brofi yn ddinystriol i ni ydyw y submarines. Ond nid ydym yn eu hofni o gwbl. Yr wyf yn dyfalu yn mha le y mae colyn angeu pan y mae un yn ymladd dros ei wlad. Ni allaf fi ddymuno well marwolaeth. Os y bydd i rhywbeth ddigwydd i mi bydd fy motor bicycle yn eiddo i ti. Meddylia am danaf pan fyddi yn reidio tua'r Bwlch (Llanengan). Mae'n bosibl y bydd dy frawd yn ymborth i'r pysgod."
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oll yn eu profedigaeth lem. Bu iddynt yn ddiweddar golli eu mam. Heblaw Mr. Jones Hughes grocer, a Nyrs Hughes, Llundain. erys Mrs. Ifor Evans. Metropalitan Bank. Bangor, a Miss Laura Hughes. Gwylfa, Pwllheli, o'r plant.