UN O BWLLHELI WEDI EI LADD.
Llythyrau dyddorol y mae milwyr Pwllheli yn eu hanfon gartref i'w teuluoedd. Erbyn hyn y mae bron yn sicr fod Pte. Edward Hughes, Penrhydleiniog. Pwllheli. wedi ei ladd yn un o'r brwydrau gyda'r 1-6ed R.W.F.Sonia nifer fawr o fechgyn Pwllheli am yr amgylchiad trist yn eu llythyrau. Mab ydoedd i Mr Hugh Hughes, ac ymunodd a'r 1-6ed Fataliwn ym mis lonawr diweddaf. Gedy weddw a thri o blant.
Mewn llythyr i Mr W. H. Benskin, ysgol- feistr. Pwllheli, dywed y Rhingyll R. H. White, o'r 1-6ed R.W.F., fod Pte. Edward Hughes, Penrhydleiniog, wedi ei ladd a nifer fechan wedi eu clwyfo. Cafodd amryw o'r bechgyn ddiangfa gyfyng. Ychwanegai yn ei lythyr fod y Tyrciaid yn snipers da iawn. Yn wir yr oeddynt yn dibynu ar hyny. Yr oedd y tanbelenau yn disgyn o'i gwmpas pan oedd yn ysgrifeny, ac yn creu cynhwrf mawr.
Ond o bob cynhwrf y mwyaf dychrynllyd oedd twrw y rhyfel longau yn tanio o'r mor. Ystori gvffelyb oedd gan Private Tom Hughes, Penmount Terrace, Pwllheli, perthynol i'r 1-6ed R.W.F., yn ei lythyr gartref.
Dywed ei fod wedi bod yn y ffosydd am bythefnos. Cyfeiria yntau at y ffaith fod Edward Hughes Penrhydlelniog wedi ei ladd. Wedi iddynt lanio tanbelenwyd hwy hyd nes y cvrhaeddasant y ffrynt line.
Dywed hefyd fod y Rhihgyll Ravenhill a'r Rhingyll Hughie Griffiths a Hughie Owen wedi eu clwyfo.
Yr Herald Gymraeg 21/09/1915
CWYMPO'N Y GAD.
Daeth hysbysrwydd swyddogol o'r Swyddfa Ryfel ddydd lau fod Private Edward Hughes, Upper Terrace, Lleyn Street, mab Mr. Hugh Hughes (Penrhydlyniog gynt), wedi ei ladd yn y brwydro yn y Dardanelles.Yr oedd Hughes yn bymtheg ar hugain mlwydd oed, a gedy weddw a thri o blant.