MORWR IEUANC AR GOLL.

Ddiwedd yr wythnos taenwyd y newydd trist yn y dref fod Mr David John Hughes, mab Mr a Mrs. John Hughes, Pendalar, yn mysg dwylaw anffodus y Llong Canganian, yr hon aeth yn ddrylliau yn nghanol yr ystorm erwin ganol yr wythnos, ac yr ofnir am y bywydau.

Dyma'r fordaith gyntaf iddo, ac nid oedd ond prin un ar bymtheg oed.

Yr oedd yn fachgen llednais a dirodres iawn, a mawr hyderir ei fod ar dir y byw er mwyn lliniaru poen ei rieni adfydus.

Yr Udgorn 29/11/1916