WEDI EI LADD.
Ychydig amser yn ôl derbyniodd Mr Robert Pierce, gynt o'r Felin, hysbysrwydd trist o'r Swyddfa Ryfel yn dweyd fod ei fab ieuengaf, Private Ellis Pierce, wedi ei ladd yn Ffrainc.Yr oedd Private Pierce yn ddyn ifanc tawel a dirodres iawn, ac yn hoff yn yr ardal oherwydd symledd ei fucheddiad. Daeth y diwedd yn dra anisgwyliadwy iddo, gan na fu yno ond ychydig na chyfarfu a'i dynged olaf.
Y mae yr ardal heddychol hon wedi cael ei blychu yn fawr gan ddifrod y rhyfel, a rhyw un beunydd yn derbyn newyddion trist.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i dad, yr hwn sydd wedi ei amddifadu o'i olwg ac mewn llesgedd mawr, ac a'r teulu oll yn eu gofid.