NEWYDD GOFIDUS.
Cafodd Capt a Mrs John Evans, Isallt, hysbysrwydd trist ddydd Iau ynghylch eu mab hynaf, Mr William Hugh Evans, yr ofnid ei fod wedi colli ei fywyd ar y môr.Mae gan Mr Evans briod a phlant yn byw yn Sir Fon. Hyderwn yn fawr y caiff ei deulu gofidus newyddion mwy calonogol maes o law i ysgafnhau'r boen ac i symud ymaith y tywyllwch.
Y mae ganddo luaws o gydnabod pryderus yn y dref sydd yn awyddu am wybodaeth derfynol ei fod ar dir y rhai byw.
Yr Udgorn 18/07/1917
MORWR WEDI EI LADD.
Fel yr hysbysem yr wythnos o'r blaen fod Capt. a Mrs. John Evans, Isallt, wedi cael llythyr yn hysbysu fod y llong a berthynai eu mab - Mr William Hugh Evans iddi wedi myned i wrthdarawiad a mwn (mine), ac yr ofnid ei fod wedi colli ei fywyd.Erbyn hyn y maent wedi cael hysbysrwydd terfynol fod hyny yn wir.
Mae cydymdeimlad cyffredinol â hwy yn eu galar.
Yr Udgorn 25/07/1917
IN MEMORIAM.
In Loving Birthday Remembrance of William H. Evans, eldest son of Captain and Mrs. Evans, "Isallt," Pwllheli, who was killed on the, S.S. "Vendee" of Liverpool, July 8th, 1917.Aged 34 years.
Sadly missed by all."