MARWOLAETH.
Ddydd Sul derbyniodd Mr a Mrs Robert Evans, Sandilands, Cardiff Road, hysbysrwydd fod eu hanwyl ferch, Miss Maggie Evans, wedi marw yn dra disymwth yn Ysbytty y Groes Goch, Plymouth, lle y gweinyddai fel Nurse, a hi yn 37 mlwydd oed.Yr oedd Miss Evans yn eneth hawddgar o gorff a diwylliedig o feddwl. Gwnai gymwynasau yn ddistwr i rai mewn adfyd, a chafodd ei dynoliaeth ddofn sylweddoliad llawn wrth weini trugredd i glwyfedigion rhyfel mewn gwahanol ysbyttai.
Bu yn gweinyddu yn Ysbytty y Wern cyn myned i Plymouth. Rhoes ei bryd ar fod yn gyfrwng bendith i ddioddefwyr y rhyfel presenol, a chafodd huno ynghanol y gorchwylion gogoneddusaf a garai ei henaid mor drylwyr.
Pwy all ddirnad maint ei hunanaberth ond y Dioddefwr Mawr ei hun. Crynhodd oes o waith i einioes fer, a ffarwelodd a'r fuchedd hon pan oedd twf ei delfrydau yn iraidd. Gwyn ei byd. Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd cyhoeddus, am 1 o'r gloch ddydd Iau nesaf ym mynwent Denio.
Cydymdeimlir a'r teulu trallodedig yn eu profedigaeth chwerw o golli un mor addfwyn.
Yr Udgorn 24/07/1918
ANGLADD MILWROL.
Ddydd Iau cymerodd claddedigaeth filwrol y ddiweddar a'r anwyl Nurse Maggie May Evans, V A. D., Sandilands, yr hon a fu farw y Sadwrn blaenorol yn y Royal Naval Hospital, Plymouth, lle y gwasanaethai fel Gweinyddes, a hi yn 37 mlwydd oed, le yn mynwent Denio.Ddydd Mawrth cludwyd ei chorff gan osgordd filwrol a phrif swyddogion yr ysbytty i orsaf Plymouth, i'w hebrwng i Bwllheli, a daeth amryw o honynt, oherwydd eu hanwyldeb a'u parch dwfn iddi, i dalu y gymwynas olal i'r dref gyda'r corff. Rhoed gorchymyn a chyfarwyddiadau priodol fod yr ymadawedig i gael gwasanaeth milwrol llawn a llwyr. Ddydd Iau, ddiwrnod ei hangladd, gwelwyd oddiwrth luosowgrwydd y dorf ei fod y mwyaf a pharchusaf a welwyd yma. Gorchuddid yr arch a wreaths ac a'r Union Jack. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys Seisnig Cardiff Road, lle y bu yn aelod ffyddlawn.
Siaradwyd am ei rhinweddau prydferth a'i hunanaberth mawr gan y Parchn. J. Rhydderch, Penlan, T. Williams, Elms, a T. Lloyd, Colwyn Bay. Wedi'r gwasanaeth cychwynwyd yn orymdaith drefnus tua'r gladdfa, ac yn blaenori yr oedd Firing Party 3rd. (Vol. Batt.) R. W. F., o dan arweiniad Sergeant-Instructor Owen, ynghyd a 2nd Lieut. F. W. Hole, o'r Headquarters Staff, Lieut. Bradley, R. N., and Petty Officer Cowie, The Commandant and Nurses of the Pwllheli V.A.D., Mrs. R. M. I Greaves, Matron of Wern Red Cross Hospital, and Six Nurses (Criccieth and Portmadoc V.AD.'s).
Gwasanaethwyd yn y fynwent gan y gweinidogion a enwyd yn flaenorol, a gollyngwyd ergydion gan y milwyr dros ei bedd. Seiniwyd y "Last Post" cyn ymadael a man ei hunfa olaf. Heddwch fo i lwch y Weinyddes dirion hyd ddydd yr adferiad cyffredinol.
Derbyniwyd llythyrau cydymdeimlad oddiwrth y rhai a ganlyn :—
Wern Hospital, Porthmadog; British Red Cross, Carnarvon; Royal Naval Hospital, Plymouth; Winter Villa V. A. D. Hostel; Plymouth Y.M.C.A. Training Quarters; London British Red Cross Society, London.
Derbyniwyd 37 o wreaths, un am bob blwyddyn o oed yr ymadawedig, oddiwrth y rhai a ganlyn :—
Dad a Mama, Will a Peggy, Cass a Jimmy; Teulu Plastan'rallt; Mrs Cowop, Francie a Sybil; Jennie; Cardiff Chapel and Sunday School; Commandant and Members of the Pwllheli V.A.D.; The Staff and Patients of the Royal Naval Hospital, Plymouth; Commandant and Staff of Wern Hospital; Lady Amphill and the Headquarters Staff, Devonshire House, London; Teulu Cunningham; Mrs Owen Parry, Avallon; Teulu Arvonia; Misses Gabriel Jones; Miss M. J. Jones, Wellfield House; Mrs. Humphreys; Mrs Lewis, Bank; Misses Roberts, Ardwyn; Mrs. Morris, Llys Tegid.
Yr Udgorn 31/07/1918
Y Ddiweddar Nurse Maggie M. Evans, V.A.D., Sandilands.
Derbyniodd Mr Robert Evans, Sandilands, y llythyr canlynol oddiwrth brif swyddog yr Ysbytty yn Plymouth, lle y gwasanaethai ei anwyl ferch, Miss Maggie May Evans, V. A. D., fel Gweinyddes yno. Dengys cynwysiad y llythyr y lle dwfn oedd iddi yn serch y Gweinyddesau a'r swyddogion oll, a'r golled ddiadfer a gaed yn ei marw cynar.Royal Naval Hospital, Plymouth,
July 21st, 1918,
Dear Mr Evans.
I feel I must write to tell you how sorry I am for you all in your great loss. It has come upon you so suddenly that I am sure you find it difficult to realise.
Your daughter complained on Thursday morning of not feeling well, but was most anxious to carry on and not to be taken off duty. I sent her to see a doctor, who put her on the sick list, and she was sent to the Nurse's sick room in the hospital. On Friday she was no better, and yesterday during the afternoon and evening gradually got worse, after there was a decided change, and at 10 o'clock she died very peacefully it seemed just. that she was falling asleep. I was with her when the end came.
I think it may comfort you a little to know that she has done so well since she came here. I think she loved her work and was very happy in it. The Sisters she worked under spoke most highly of her, and I personally always found her so bright and willing and anxious to do her utmost for her patients.
She is a very real loss to us.
With sincere sympathy,
I am, your truly,
M. L. HUGHES, Head Sister.