YMUNO MEWN GWLAD BELL.
Yr wythnos ddiweddaf daeth Private John Parry Evans (mab Mrs C. Evans, New Street), ar ymweliad a'i gartref. Y mae Private Evans, yr hwn a adnabyddid yn y dret fel Mr John Parry Evans, "Lighter," yn gweithio yn Canada ers blynyddoedd bellach.A phan dorodd y rhyfel allan gwrandawodd ar Iais ei gydwybod a llef y dinodded, ac ymunodd yn wirfoddol a byddin y Canadiaid. Da oedd genym ei weled yn edrych mor iach a graenus. Y mae y bechgyn hyn sydd yn enedigol o'r dref, er wedi ymuno mewn gwledydd pell, yn adlewyrchu yn dda ar y ddysgeidiaeth a roed iddynt yn nyddiau tawel plentyndod i garu gwir ddynoliaeth a rhyddid meibion nynion ymhob agwedd arno.
Duw fo'n lloches iddo rhag saethau'r gelyn.
Yr Udgorn 22/11/1916
MARWOLAETH MILWR.
Ganol yr wythnos derbyniodd Mrs Sarah Evans, 29, New Street, y newydd trist fod ei mhab, Private John Parry Evans, wedi marw o waeledd mewn ysbyty yn Ffrainc. Adnabyddid y cyfaill ymadawedig yn y dref fel John Parry Evans (Lighter), ac ymsefydlodd er's blwyddi bellach yn Canada.Yno y clywodd gorn y gâd yn galw ar ei phlant i ddod allan i amddiffyn cenhedloedd bychain a dreisid mor anystyriol gan ymherodraethau cryfach, ac ymunodd ar unwaith yn wirfoddol. Yr oedd yn ddyn ieuanc dewr a phenderfynol, a graddau o ysbryd anturiaethus yn ei natur. Meddai luaws o gyfoedion edmygent ei wroldeb a'i garedigrwydd, a bydd colli cyfaill mor bur yn siom dirfawr iddynt.
Machludodd ei haul pan yn ei anterth, a phan y gobeithid pethau mawr oddiwrtho. Caffed hûn dawel yn nyffryndir yr estron, a bydded i'w fam hiraethus a'i deulu gael nerth i ddal y boen heb rwgnach.
Y mae ganddo ddau frawd arall wedi ymuno a'r fyddin.