AR GOLL.
Cafodd Mrs Dunwoodie, 15, Carnarvon Road, hysbysrwydd syddogol ddydd Mercher diweddaf yn dweyd fod ei phriod, Private George Dunwoodie, ar goll yn Ffrainc. Perthynai i'r adran Ysgotaidd o'r Fyddin.Cafodd wybodaeth am dano y waith gyntaf, ar Ebrill y 23ain, ei fod yn glwyfedig mewn ysbytty yno, ond wedi gwneud ymchwiliadau pellach yn ei gylch trwy swyddogion y gwahanol ysbyttai, ceid nad oedd yn mysg rhestr y clwyfedigion.
Mawr ddisgwylir ei fod yn ddiogel yn rhywle, ac y bydd i'r cwmwl du sy'n crogi uwchben y cartref unig hwn roi ffordd i obeithion gwell.
Yr Udgorn 06/06/1917
NEWYDD PRUDD.
Ddiwedd yr wythnos derbyniodd Mrs Dunwoodie, 15, Carnarvon Road, hysbysrwydd o'r Swyddfa Ryfel fod ei phriod, Private George Dunwoodie, wedi ei ladd yn Ffrainc er Ebrill 23ain.Yr oedd peth amheuaeth yn bod ynglyn a'i ddiogelwch er y dydd yr hysbysid ei briod ieuanc ei fod ar goll neu yn garcharor, ond disgwylid er hyny mewn gwir hyder y deuai rhyw oleuni claerwyn a yrai ymaith y niwl anobeithiol oedd yn llanw y cartref hiraethus lle y trigai ei weddw unig a'i dau blentyn bach, ond fel arall y bu.
Perthynai i'r fyddin Ysgotaidd, ac yr oedd o waed a thraddodiad yn Ysgotyn gwirioneddol. Yr oedd yn ŵr ieuanc rhadlon a chymdeithasgar nodedig, ac un o dueddiadau y gellid yn hawdd gwneud cyfaill o hono.
Daeth i'r dref ychydig flynyddoedd yn ôl, a gwnaeth ei gartref yma. Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'i hamddifaid bach yn eu dioddefaint a'u tristyd, a chaffed y cyfryw nerth cyfamserol yn ôl y dydd i weld goleuni yn yr hwyr.