WEDI EI GLWYFO.
Hysbysir fod Mr. William Rees, mab Mr a Mrs Thomas Rees, Henbandy, wedi ei glwyfo yn ei goes yn y Dardanelles.Dymunwn iddo gael gwellhad llwyr a buan.
Yr Herald Gymraeg 21/09/1915
WEDI CWYMPO.
Prudd iawn oedd y newyddion swyddogol ddaeth i'r dref yr wythnos ddiweddaf o faes yr heldrin yn Mhalestina. Wele'n canlyn enwau tri, milwr dewr a gollasant eu bywyd dros wladgarwch a chysegredigrwydd cytundeb :- Private Robert Hughes, mab ieuengaf Mr Robert a Mrs Catherine Hughes, Tan'rallt Terrace; Private Willie Green, mab Mr a Mrs Tom Green, Fruit Shop, High Street; Lance-Corporal Richard Pierce, mab Mr a Mrs Richard Pierce, Tan'rallt, Abererch.Anhawdd peidio ymollwng i gwynfan uwchben difrod yr rhyfel wrth weld rhosynau'r oes yn gwywo yn eu twf, ac angeu llym yn agor bedd-rodau cynar i blant yr addewidion mewn gwledydd estronol. Yr oedd y bechgyn anwyl hyn yn meddu ar neilttuolion arbenig oedd yn eu gwneud yn hysbys mewn amryw gylchoedd o gymdeithas, a bydd eu lleoedd yn wâg a diadfer mwy. Gwelsant ddyddiau tywyll ac anobeithiol mewn aml i frwydr galed cyn cyfarfod o honynt a'u tynged olaf, a safasant yn wyneb yr anocheladwy yn deilwng o wroniaid hanes Cymru Fu.
Huned y dewrion mwy yn naear dawel y dwyrain bell, o swn megnyl a chri yr alanas, hyd foreu gwyn y codi.
Cysured y nef eu teuluoedd hiraethus yn nghanol y ddrycin ddihedd, a bydded i'r cyfryw gael nerth i'w dal yn dawel.