COLLI EI FYWYD.
Derbyniodd Mrs. Davies, Idris View, Brookfield Terrace, hysbysiad trist fod ei phriod Mr. Tom Davies, peirianydd ar un o agerlongau masnachol y deyrnas, wedi colli ei fywyd yn ystod ffrwydriad achoswyd pan oedd un o longau tanforol y gelyn yn suddo ei long. Cafodd Mr Davies ddiangfa gyfyng o'r blaen pan yr oedd yn un o ddwylaw yr "Appam," yr hon a ddaliwyd gan y Germaniaid, ond yn ffodus gollyngwyd hwy yn rhydd.Brodor o Ffestiniog oedd Mr. Davies, ac nid oes ond rhyw dair wythnos er pan adawodd ei gartref. Bu ei fab hynaf, yr hwn sydd yn ymladd yn Ffrainc er's dwy flynedd, ar ymweliad a chartref yr wythnos ddiweddaf.
Gedy briod a phlant bychain i alaru eu colled ar ei ôl, i'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.