SYRTHIO YN Y RHYFEL.
Derbyniodd teulu Lance-Corporal Willie R. Anthony (mab ieuengaf y diweddar Mr W. Anthony, The Lodge), hysbysrwydd swyddogol ei fod wedi ei ladd yn Ffrainc, a'i gladdu yno. Perthynai i Fataliwn y Fyddin Gymreig.Yr oedd Willie yn fachgen ieuanc a gobeithion disglaer o'i flaen, a dangosodd hyny, er ieuenged oedd, yn ei alwedigaeth yn yr ariandy. Bachgen dymunol a hardd ydoedd, a'i rodiad yn fonheddig. Chwith gan lu o'i ffryndiau fydd deall ei fod yn gorwedd mewn estron dir yn ngwanwyn ei oes.
Duw fyddo'n nodded i'w deulu yn ei hiraeth am dano.