WEDI GWELLA.
Mae Lieutenant J. R. Anthony yn gwella yn foddhaol ar ôl y ddamwain a dderbyniodd gyda'r llongau awyr yn ddiweddar.Mae Mr. Anthony yn gryn feistr ar y peirianau ehedeg, ac aeth i Lundain yr wythnos ddiweddaf gyda'r bwriad o ail afael yn ei ddyledswyddau.
Yr Herald Gymraeg 18/01/1916
AR YMWELIAD.
Bu Lifftenant J. R. Anthony, The Lodge, adref am ychydig seibiant. Fel y gwyddis y mae yn Swyddog ar yr Awyrlongau sydd yn croesi o'r wlad yma i Ffrainc, ac yn ôl yn wythnosol. Yr oeddym yn falch o'i weled yn edrych cystal, a dymunwn iddo bob amddiffyn wrth gyflawni ei ddyledswyddau peryglus.Yr Herald Gymraeg 25/10/1916
AR GOLL.
Heddyw (dydd Mawrth) derbyniodd Mr Isaac M. Anthony, The Lodge, hyshysrwydd gofidus o'r Record Office, Shrewsbury, yn dweyd fod ei frawd, Flight-Lieutenant J. R. Anthony, ar goll yn Ffrainc.Yr oedd Lifft. Anthony yu awyrwr dewr ac anturiaethus, a dangosodd fwy nag unwaith mewn ymgyrch awyrol yno felddgarwch dihafal, a dygodd o aml ysgarmes gyfyng glod i'w wroldeb a'i hunanfeddiant.
Disgwyliwn yn dawel fod y gwron a edmygir mor fawr gan ei gydnabod a'r trigolion ar gael, ac fod ei ymwared yn sicr.
Yr Udgorn 30/05/1917
NEWYDD DA.
Heddyw (dydd Mawrth) derbyniodd Mr Isaac M. Anthony, The Lodge, newydd calonogol oddiwrth Flight-Lifftenant Breen Turner o Ffrainc, fod ei frawd, Fiight-Lifftenant J. R. Anthony, yr hwn a hysbysid yn flaenorol gan yr awdurdodau swyddogol ar goll, yn awr yn garcharor yn Germani, ac wedi ei glwyfo yn ysgafn.Bydd yr hysbysrwydd hwn, ar adeg pan y mae cymaint cyfnewid ar bethau ac ansicrwydd bywydau, am ei ddiogelwch yn dderbyniol iawn gan luaws o'i gyfeillion mwyaf hoff ac anwyl iddo, a chan y trigiolion yn gyffredinol.
Mawr ddisgwyliwn y deuir o hyd i'r gweddill sydd yn rhestr y colledigion o'r dref ac y symudir ymaith mewn canlyniad boen a phryder eu teuluoedd.
Yr Udgorn 06/06/1917
CAPTEN J. R. ANTHONY.
Mae peth ansicrwydd yn bod o bethynas i ddiogelwch Capten Anthony.Cyhoeddwyd yr wythnos o'r blaen ei fod ar goll. Derbyniwyd gair ddydd Llun gan Lieut. Breen Turner yn dweyd ei fod yn garcharor rhyfel ac wedi ei anafu yn ysgafn. Dydd Mawrth caed pelebr o'r Swyddfa Ryfel yn dweyd ei fod wedi marw o'i glwyfau. Dydd Mercher drachefn caed llythyr oddiwth Uwch-Gapten yn Ffrainc yn hysbysu ei fod yn garcharor wedi ei glwyfo yn ysgafn.
Ymddengys fod yna J. R. Anthony arall yn perthyn i'r adran awyrol o'r fyddin. Mae hwnw, yn gapten wedi ei drosglwyddo o'r R.W.F. fel Capten Anthony. Bu i frawd i'r ddau gael ei ladd yn ddiweddar yn Ffrainc.
Cyhoeddwyd fod y ddau ar goll a'u bod yn garcharorion ac wedi eu clwyfo yn ysgafn yr un adeg.
Yr Herald Gymraeg 12/06/1917
FLIGHT-LIFFTENANT J. R. ANTHONY.
Ychydig wythnosau yn ôl yr oedd pethau yn lled ansicr o berthynas i ddiogelwch Flight-Lifftenant J R. Anthony, ond y mae y ffeithiau swyddogol a gaed yr wythnos ddiweddaf yn profi yn ddiamwys ei fod ar dir y byw - yn garcharor ac yn glwyfedig yn Germani.Dydd Mawrth caed llythyr o'r Swyddfa Ryfel yn dweyd ei fod wedi marw o'i glwyfau, a dydd Mercher drachefn derbyniwyd llythyr oddiwrth Uwch-Gadben yn Ffrainc yn dweyd ei fod yn garcharor ac wedi ei glwyfo yn ysgafn. Mae'r anhawster fu ynglyn a sicrwydd ei ddiogelwch yn gorwedd yn y ffaith fod dau o honynt yn dwyn yr un enw, yn meddu ar yr un anrhydedd milwrol, y ddau fel eu gilydd wedi colli brawd yn y rhyfel, a'r ddau wedi eu clwyfo ac yn garcharorion yn Germani mewn canlyniad i ymgyrch awyrol.
Dyna'r rheswm dros ei ddirgelwch, ac erys yr hysbysrwydd olaf a gaed ei fod yn fyw.
Yr Udgorn 13/06/1917
FLIGHT-LIFFTENANT J. R. ANTHONY.
Y mae y newyddion diweddaraf a ddaeth i law ddydd Sadwrn diweddaf yn rhoi hysbysrwydd terfynol am y gwron ieuanc talentog, Flight-Lifftenant J. R Anthony, ei fod wedi marw o'i glwyfau yn Germani.Derbyniwyd y newydd prudd gan ei frawd - Mr Isaac M. Anthony, The Lodge, - oddiwrth Lifftenant Mackintosh, carcharor Prydeinig yn Germani, yn rhoi yr holl fanylion am dano. Yr oedd yr holl adroddiadau blaenorol a gaed yn dra chymysglyd parthed sicrwydd ei ddiogelwch personol, ond wele o'r diwedd sicrwydd diamheuol wedi dod am ei dynged olaf.
Wele'n canlyn ddyfyniad o lythyr Lifftenant Mackintosh, yr hwn a rydd ganmoliaeth arbenig i'r Germanlaid hyny weinyddodd arno gyda'r fath ymlyniad a gofal hyd munydau olaf ei fywyd.
"Cefais y fraint, fel carcharor rhyfel, o ddod i gysyslltiad a swyddog Germanaidd o'r enw Muller, yr hwn a weinyddodd arno yn ei funudau olaf. Clwyfwyd ef tra yn gwrthwynebu lluoedd awyrol Germanaidd cryfach na'r eiddom ni, a chwympodd i'w gafaelion. Aeth Muller ag ef yn glwyfedig i'w hut, a galwodd yn uniongyrchol am feddygon, a daeth chwech o honynt yn ddiymdroi. Gwelwyd fod yn angenrheidiol iddo fyned dan weithred law-feddygol y nos hono a gwnaed popeth posibl i adfer ei fywyd, ond bu farw gyda thoriad gwawr y boreu dilynol.
Cyn cyflawni y weithred feddygol arno ymddangosai yn siriol ac mewn ychydig boen. Cefais yr anrhydedd o fod yn yr un adran awyrol ag ef, a dangosai fedr a beiddgarwch dihafal, a phenderfyniad di-ildio wrth gyflawni ei ddyledswyddau awyrol peryglus a chelyd. Mewn gair gwron ydoedd fel awyrwr, ac ychwanegodd trwy ei alluoedd arbenig yn y cyfeiriad hwn at lwydd a chlod yr awyrwyr Prydeinig."
Y mae y geiriau canmoliaethus hyn am y cyfaill rhadlon a phur yn dangos yn amlwg fod merthyr dewr wedi marw dros ei wlad yn mlodeu ei ddyddiau, a chwith meddwl fod y dref a chymdeithas wedi eu hamddifadu mor gynar o alluoedd mor wych.
Cydymdeimlir a'i frawd a'r teulu yn eu galar a'u hiraeth am gymeriad mor addfwyn.
Yr Udgorn 15/08/1917
Lieut. J. R. Anthony (Died of Wounds).
Several months ago it was reported at Pwllheli that Lieut. J R Anthony, son of the late Alderman Wm Anthony, J. P., had been wounded, and that he has missing in France. Then followed a rumour that he was wounded and a prisoner. Soon afterwards it was rumoured that there had been a confusion of names, and that it was another officer who really figured amongst the casualties.New reliable information has reached Mr Isaac M Anthony, the lieutenant's brother, that the latter died of wounds within 24 hours after he was shot during aeriel encounter with the enemy.
An officer, who was with the deceased at the time he was wounded, and who was taken prisoner at the same time, wrote to Mr Isaac M. Anthony stating that his brother was taken by a German officer named Muller, to the latter's own hut, and medical aid was immediately summoned. Six doctors came at once, and they saw that a surgical operation was necessary. That operation was successfully performed, and the patient appeared to be bright and cheerful, but the next morning he passed away. It is stated that Lieut Anthony received every attention from the German doctors and Muller.
The deceased was a brave and able oiffcer, and it was whilst fighting against superior odds that he was wounded. Lieut. Anthony was a solicitor, and had just commenced practising when he voluntarily joined the Army.
He was of a quiet demeanour, affable, unassuming, but possessed a strong will and reserve of power. As an advocate he was a pleasant speaker, and ably and lucidly placed his cases before the courts. The deepest sympathy is extended in Pwllheli and district to his relatives, who last year lost another brother, the late Private W. Anthony, who, before enlisting, was a bank clerk.
North Wales Chronicle 17/08/1917
J. R. ANTHONY.
Son of the late Alderman W. Anthony, J.P., Pwllheli, was a solicitor practising with Messrs Picton Jones and Roberts.He held a commission in the R.W.F. and a few months before the outbreak of war joined the special reserves. He was transferred to the Royal Flying Corps in January, 1915, and in the following May obtained his wings, thus qualifying as a flying officer. He afterwards did much flying in this country and in France. While in France he received from the General in Command of the Seventh Army Corps a letter congratulating him on his magnificent exploits in the air. He was promoted flight Commander early this year.
When last seen he was reported fighting gallantly against heavy odds above the German lines.
He was forced down severely wounded and died on the following morning, May 26th, 1917.