MARW GWR IEUANC.
Drwg genym gofnodi marw yr hynaws John T. Roberts, Ddorddu, yr hyn a gymerodd le yn yr ysbyty yn Kinmel Park, Mawrth. 28ain, ac a ddygwyd i Nevin i'w gladdu Ebrill; 2il, ac yntau ond 18 oed.Mab ydoedd i David a Janet Roberts Bwlch Gwynt gynt), a meddai un chwaer ieuengach.
Bu yn y khaki llai na dau fis. Cafodd gystudd blin iawn. Cafodd ei fam drallodus y fraint o fod yno yn gwasanaethu iddo am ysbaid chwech wythnos; ond angau a'u gwahanodd. Caed prawf clir a diymwad ei fod wedi cael gafael gref ar "wreiddyn y mater," i'r fath raddau fel nad awyddai "Droi yn ei ôl rhag mynd at Iesu Grist" — dyna ei eiriau yn ei ddydd olaf.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth lem.
Bachgen hynod hoffus oedd John - un a fu yn ufydd iawn i'w riaint ymhob modd.