CWYMP MILWR.
Ddydd Sul cyn y diweddaf derbyniais lythyr, yn cynwys y newydd alaethus o gwymp y bachgen hoffus, Thomas Hywel Jones, 4, Pistyll Terrace gynt, ond ers peth amser preswvlia ei rieni yn Bryn Awel. Talybont, Talycafn, sef Mr. John a Caroline Jones. Tra yr arhosent yma gyda ni yr oedd Mr. J. Jones yn beirianydd yng ngwaith Garreg y Llan.Yr oedd iddynt ddau fab a geneth. Enw y mab arall yw Edward Albert Jones. Ymunodd y ddau frawd a'r R.W.F. yn gynar ar y rhyfel. Aeth "Eddie" gyda'i gatrawd i'r Dardanelles. Cafodd ei glwyfo fwy nag unwaith, cafodd glefydon a rhew. Ar hyn o bryd erys yn yr Aifft. Eiddunwn iddo ef lwydd ddod yn ôl at ei rieni profedigaethus yn fuan.
Galwyd Thomas (y trancedig) allan i Ffrainc rai misoedd yn ôl. Derbyniasom oddiwrtho amryw lythyrau dyddorol tra bo yno. Os y cawn hamdden ceisiwn wneyd crynhodeb o rai ohonynt. fel y gwelo "Y Saint" a ofnant am gyflwr eneidiau "Had yr eglwys" fel y mae yr "Had da" yn tyfu yn ffosydd y gad! Rhyfedd ffyrdd yw ffyrdd Duw, onide!
Cwrddodd y cyfaill ieuanc anwyl hwn ai angau am 9 o'r gloch foreu LIun Mawrth y 6ed.
Cydymdeimla yr ardaloedd cylchynol yn ddwys iawn a'i rieni caredig. Hyderwn yn fawr y cant oleuni ar
Y Cyfaill goreu gaed,
Yn gau mil gwell na mam a thad
Yn mhob caledi, ffyddlon yw.
"Canys ynddo Ef y caiff yr amddifad drugaredd."
J. T. W
Yr Herald Gymraeg 21/03/1916
UN FU FARW DROS EI WLAD.
DYLANWAD ER DAIONI.
Cofnodwyd marw Thomas Hywell Jones yn yr Herald o'r blaen.Fel y dywedasom, mab ydoedd i John a Catherine Jones, 4 Pistyll Terrace, Pisityll, a drigant yn awr yn Bryn Awel, Talycafn. Lladdwyd Hywell yn Ffrainc foreu Llun Mawrth 6ed.
Fel y crybwyllasom o'r blaen, yr oedd yn fachgen hynaws iawn, llawn o'r elfenau gwerthfawrocaf mewn cymeriad. Ond ni chafodd amser i'w datblvgu. Caem lythyrau oddiwrtho hynod ddyddorol. Tybiem y gallasai cyhoeddi rhai pethau ynddynt fod o wir les i ni gartref ac i fechgyn glewion ein gwlad yn y gad, er dangos yr hyn a fag wir nerth mewn dyn, a wna iddo gyfeillion, dry iddo yn nodded, ildia iddo fwyniant dihysbydd, a'i gwna yn wrol, ac yn wron mewn gwirionedd ond gan ddarfod i'w rieni dderbyn y llythyr rhagorol sy'n dilyn oddiwrth Capten R. Lloyd Williams, 17th R.W.F., sef y gatrawd y perthynai Hywel iddi. efallai mai gweIl yw dodi hwnw yn unig i fewn fel y gall bechgyn Cymru weled yr hyn a ddyrchafa Gymro mewn pob amgylchiad.
Rhaid credu yr hen adnodau—" Dyrchafa di hi, hithau a'th ddyrchafa di."
Wele'r llythyr :
Ffrainc, 15 Mawrth, 1916. "
Anwyl Gyfaill,
Gyda gofid yr wyf yn ymgymervd a'r gwaith o ysgrifenu atoch i ddadgan cydymideimlad â chwi a'ch priod yn eich profedigaeth ddofn o golli eich hanwvl fab Pte. T. H. Jones. Yr ydych erbyn hyn wedi cael yr holl fanylion yn nghylch y sut y digwyddodd yr anffawd. Gallaf ychwanegu ei fod wedi cael claddiedigaeth barchus. Bum yn gweld ei feddrod y dydd o'r blaen fel y gweddill o'r beddau. Digon syml a diaddurn ydyw, heb flodeuyn hyd yn oed yn agos iddo, and mae yn dda genyf gael y fraint (os na chaf roi blodeuyn ar ei feddrod) o blanu un mewn llythyr fel hyn fydd yn foddion i wneyd ei goffadwriaeth yn fwy pur ar fryniau Cymru.
Gallesid dweyd mwy am Hywel Jones, fel y'i gelwid genym nag a allesid ddweyd am y rhan fwyaf o'r bechgyn eraill yn y company. Yr oedd ei ymddygiad dystaw a gweddus a'i natur addfwyn, garedig wedi tynu sylw'r swyddogion ers talwm. Nid oedd wahaniaetih beth ofynid iddo ei wneyd fe'i gwnai ef yn ddidwrw, a hyny ar unwaith. Bvdd yn dda genych glywed hefyd yr arferai fvnychu yr holl gyfarfodydd gweddi a phob gwasanaeth crefyddol gawsom yn Ffrainc, ac 'roedd yn hawdd gweIed mae yn y Seiat a'r Ysgol Sul yr oedd wedi ei ddwyn i fyny a'i fod yn parhau i gadw ac i barchu cynghorion ei rieni a chynghorion athrawon boreu oes, hyd yn oed wedi cefnu arnynt. Yr oedd yn ddylanwad er daioni ymysg ei gyd-filwyr.
Bydd yn gysur i chwi, ei rieni, gofio iddo golli ei fywyd yn ymladd dros achos mor anrhydeddus. Derbyniwch ein cydymdeimlad llwyraf â chwi yn eich profedigaeth lem.
Ar ran swyddogion D Coy., ydwvf yn wir,
R. LLOYD WILLIAMS (Capt.), 17th Batt., R.W.F."